Trefnydd ras feicio angheuol yn Llangollen yn ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Peter Walton and Judith GarrettFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Judith Garrett yn gwylio ei chariad Peter Walton yn cystadlu yn y ras

Mae trefnydd ras feicio mynydd wnaeth arwain at farwolaeth dynes yn Sir Ddinbych wedi ei gael yn ddieuog o fethiannau diogelwch.

Bu farw Judith Garrett, 27, wedi iddi gael ei tharo gan feic ar ôl i seiclwr golli rheolaeth yn y digwyddiad ar dir fferm Tan y Graig ger Llangollen ym mis Awst 2014.

Fe wnaeth hi daro ei phen ar goeden, gan dorri ei phenglog a chael gwaedlif. Bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach.

Cafwyd Michael Marsden, 41 o Gaerhirfryn, yn ddieuog o fethu â chynnal y digwyddiad mewn ffordd oedd yn sicrhau nad oedd pobl yn wynebu perygl ac o fethu â gwneud asesiad risg digonol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar dir fferm Tan y Graig ger Llangollen ym mis Awst 2014

Cafwyd Ffederasiwn Seiclo Prydain hefyd yn ddieuog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug o gyhuddiadau o fethu yn eu cyfrifoldebau i oruchwylio'r digwyddiad a rhoi sêl bendith i'r asesiad risg.

Roedden nhw wedi mynnu ei fod yn achos o "gamadnabod", ac mai corff arall - Ffederasiwn Seiclo Cymru - oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.

Fe glywodd y llys gan y seiclwr wnaeth daro Ms Garrett - Andrew Cody - ddywedodd ei fod yn teimlo bod y gystadleuaeth wedi ei threfnu'n dda.

Ychwanegodd Mr Cody, oedd ddim yn wynebu cyhuddiadau ei hun, ei bod yn ymddangos fod digon o swyddogion ar ddyletswydd a bod rhubanau wedi'u gosod o amgylch y cwrs fel y dylen nhw fod.

Cafodd yr achos yn erbyn marsial, Kevin Duckworth - oedd wedi'i gyhuddo o fethu yn ei gyfrifoldebau yn y digwyddiad - ei ollwng yr wythnos ddiwethaf.