Cymru'n 'colli cyfle' i ddylanwadu ar drafodaethau Brexit

  • Cyhoeddwyd
Cymru a'r UEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweinidogion llywodraethau Cymru a'r Alban yn dweud eu bod wedi colli allan ar gyfle i ddylanwadu ar drafodaethau Brexit.

Maen nhw eisiau gweld copïau drafft o bapur gwyn Llywodraeth y DU ar Brexit mewn trafodaethau yn Llundain ddydd Iau.

Maen nhw'n dweud bod y ffaith na welon nhw'r ddogfen ynghynt yn golygu nad yw Caerdydd a Chaeredin wedi cael y dylanwad "arwyddocaol" oedd wedi'i addo.

Daw ddiwrnod yn unig cyn i Theresa May gynnal cyfarfod o'i chabinet i gytuno ar beth mae'r llywodraeth ei eisiau o'r cytundeb terfynol gyda'r UE.

'Amhosib gwneud cyfraniad ystyrlon'

Dywedodd gweinidogion Cymru a'r Alban ei bod nawr yn "amhosib i ni wneud y math o gyfraniad ystyrlon - yn seiliedig ar dystiolaeth - rydyn ni'n credu sy'n allweddol".

Mewn datganiad ar y cyd gan Ysgrifennydd Cyllid Cymru Mark Drakeford a Michael Russell o Lywodraeth Yr Alban, dywedon nhw fod Llywodraeth y DU wedi torri eu haddewid "i geisio cael cytundeb ar eu safle trafod nhw".

Dywedodd David Lidington, fydd yn cadeirio'r pwyllgor ddydd Iau, y bydd Llywodraeth y DU yn "ymwneud yn gadarnhaol" â'r llywodraethau datganoledig.