Rhybudd ar ôl i blentyn losgi ar farbeciw ar draeth

  • Cyhoeddwyd
HarriFfynhonnell y llun, Laura Ashford
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd anafiadau Harri yn cymryd wythnosau i wella, ac ar hyn o bryd mae'n methu rhoi unrhyw bwysau ar y droed.

  • RHYBUDD: Mae llun all beri gofid i'w weld isod.

Mae mam bachgen bach dwy oed wedi disgrifio'r ofn o weld ei mab mewn poen ar ôl iddo losgi ei droed drwy gamu ar farbeciw tafladwy ar draeth.

Roedd Laura Ashford a'i mab Harri ar draeth Bae Cas-wellt, Gŵyr ddydd Sadwrn pan ddechreuodd sgrechian mewn poen.

Ar ôl sylweddoli beth oedd wedi digwydd, fe gafodd Harri ei ruthro i'r ysbyty.

Fe fydd anafiadau Harri yn cymryd wythnosau i wella, ac ar hyn o bryd mae'n methu rhoi unrhyw bwysau ar y droed.

'Wedi dychryn'

Mae llawfeddygon a grwpiau amgylcheddol nawr yn rhybuddio am y peryglon o beidio â chael gwared â barbeciws tafladwy yn iawn.

"Roeddwn wedi dychryn ar ôl gweld ei anafiadau, ac yn amlwg roeddwn wedi ypsetio," meddai Miss Ashford, oedd ar y traeth gyda'i thad a'i chwaer.

Roedd Harri wedi bod yn casglu cerrig i beintio ar ôl cyrraedd adre pan wnaeth gamu ar y siarcol poeth.

Ffynhonnell y llun, Laura Ashford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri'n cael newid ei rwymiadau yn ddyddiol

"Roeddwn mewn panig, ond ar ôl cwblhau cwrs cymorth cyntaf roeddwn yn gwybod fod angen rhoi dŵr ar ei draed."

Fe wnaeth Ms Ashford ruthro Harri i Ysbyty Singleton yn Abertawe cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r adran losgiadau yn Ysbyty Treforys.

'Dewrder'

"Mae'n cael newid ei rwymiadau yn ddyddiol - rydym yn falch iawn o'i ddewrder."

Mae Miss Ashford wedi canmol staff yr ysbyty ac mae hi'n galw am fwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â pheryglon defnyddio barbeciws a chynnau tanau ar draethau.

"Nid Harri yw'r plentyn cyntaf i gael ei anafu yn y ffordd yma, ond dwi'n gobeithio drwy godi ymwybyddiaeth mai fe fydd y person olaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Laura Ashford
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harri yn mwynhau'r tywydd braf ar y traeth gyda'i deulu cyn iddo losgi ei droed ar farbeciw tafladwy