Vincent Tan yn troi £66.4m o ddyled yn gyfranddaliadau
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog clwb pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan wedi troi £66.4m o ddyled y clwb i mewn i gyfranddaliadau.
Mae'r dyn busnes wedi bod yn ceisio lleihau dyledion yr Adar Gleision ers blynyddoedd, ac wedi dweud ei fod yn anelu i gael y clwb yn rhydd o ddyled erbyn 2021.
Fe ychwanegodd Mr Tan dros 664 miliwn o gyfranddaliadau cyffredin gwerth 10c.
Dywedodd prif weithredwr a chyfarwyddwr gweithredol Caerdydd, Ken Choo: "Hoffwn ddiolch unwaith eto i Tan Sri Vincent am ei haelioni."
Ymrwymiad i'r clwb
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2013-14 roedd gan y clwb ddyled o £174m - y rhan fwyaf o hynny yn ddyledus i Mr Tan.
Ers hynny mae'r perchennog 66 oed wedi lleihau'r ddyled honno yn sylweddol, gan gynnwys troi £68m yn ecwiti ym mis Chwefror 2016.
Yn ôl Mr Choo mae'r Adar Gleision yn "hynod o falch bod llwyddiant y clwb ar y cae yn cyd-fynd a sefydlogrwydd ariannol oddi arno".
Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd, Keith Morgan: "Mae hyn yn hwb sylweddol i sefyllfa ariannol y clwb, ac yn esiampl bellach o ymrwymiad Vincent Tan i'r clwb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018