Siop esgidiau yn Llandudno i gau wedi 96 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd un o fusnesau hynaf Llandudno yn cau cyn diwedd y flwyddyn ar ôl bod ar agor am 96 mlynedd.
Mae siop esgidiau David Roberts Shoes of Distinction wedi bod ar Stryd Gloddaeth ers 1922, ac wedi cael ei redeg gan yr un teulu ers ei sefydliad.
Cafodd ei agor gan David Roberts o Lanrwst wedi iddo adael ei swydd yn siop Harrods yn Llundain i ddychwelyd i ogledd Gymru.
Ŵyr Mr Roberts, Andrew sydd wedi rhedeg y siop ers 1967 gyda'i wraig Hilary, ond mae'r cwpl wedi penderfynu ymddeol.
Dywedodd Andrew Roberts eu bod wedi gwneud y penderfyniad er mwyn treulio mwy o amser gyda'u merched a'u hwyrion.
"Ni fyddai'r 96 mlynedd diwethaf wedi bod yn bosib heb gefnogaeth y staff sydd wedi gweithio yma yn y siop, a'r holl gwsmeriaid," meddai.
Fe wnaeth y sylfaenydd redeg y siop nes 1937, pan wnaeth ei fab David gymryd yr awenau nes iddo ddioddef strôc yn 1967.
Er ei fod yn dal yn yr ysgol ar y pryd, Andrew Roberts wnaeth reoli'r siop wedi hynny, gan orfod colli'r wers gyntaf pob dydd am dri mis ar y dechrau i agor pob bore.