Cost twyll yn £17m mewn chwe mis yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae twyll wedi cynyddu 21% yng Nghymru yn ystod y tair blynedd ddiwethaf gyda nifer yr achosion yn cyrraedd 11,078 erbyn 2017.
Roedd cyfanswm y gost i ddioddefwyr yn £17.1m yn ystod y chwe mis a arweiniodd at fis Mawrth, yn ôl data swyddogol.
Mae data yn dangos bod twyll sy'n gysylltiedig ag elusennau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu'n ddirfawr yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Mae'r heddlu'n annog pobl i amddiffyn eu hunain drwy, er enghraifft, flocio galwadau.
Twyll bancio ar-lein ac ar y ffôn
Mae John Williams, sy'n byw yn Nhrecelyn ger Caerffili, yn dweud iddo gael ei dwyllo gan dwyllwyr "proffesiynol" wedi iddo golli £53,000 drwy dwyll ffôn.
Dywedodd Mr Williams, 65, iddo gredu ei fod yn delio â staff ei fanc ei hun ond mewn gwirionedd rhoddodd hawl i droseddwyr fynd i'w gyfrif.
Dywedodd ei fanc, Santander, na fyddent yn gofyn i gwsmeriaid drosglwyddo arian na chynnig gwybodaeth bersonol.
"Dwi fod yn effro i'r pethau yma... ond doeddwn i ddim y noson honno," meddai.
Collodd Mr Williams arian oedd i brynu fflat gwyliau yn Weston-super-Mare gan fod ei wraig Carol yn dioddef o ganser a ddim yn gallu teithio dramor.
Mae John Drake, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, yn dweud bod cynnydd wedi bod mewn pob math o dwyll dros Gymru a bod mwy o bobl yn sôn am droseddau.
Mae'n credu bod technoleg yn rhoi cyfle i droseddwyr ecsbloetio pobl mewn ffyrdd gwahanol ond bod twyll "mewn ffyrdd traddodiadol yn parhau i ddigwydd".
Dywed Action Fraud, sy'n casglu data ar ran plismyn, bod achosion wedi costio £17.1m i ddioddefwyr yng Nghymru rhwng Hydref 2017 a Mawrth 2018.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, twyll yn ymwneud â siopa ac ocsiynau ar-lein sydd wedi bod yn fwyaf cyffredin, gyda 4,599 achos i gyd. Mae hynny'n gynnydd o 7.5%.
Mae'r data'n dangos bod twyll sy'n gysylltiedig ag elusennau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu'n ddirfawr yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Cynnydd mwyaf yn y gogledd
Mae Heddlu De Cymru wedi buddsoddi mewn "swyddogion arbenigol i ddelio â thwyll ariannol" er mwyn canfod pobl fregus allai fod yn ddioddefwyr.
Mae achosion o dwyll yn ardal heddlu'r de wedi cynyddu 26.8% i 4,735 trosedd yn 2017.
Mae'r cynnydd mwyaf wedi bod yn ardal heddlu'r gogledd - i fyny 39% ers 2015 i 2,769 achos, roedd cynnydd ardal Dyfed-Powys yn 7.9% - 1,839 achos.
Doedd fawr o newid yn ardal Heddlu Gwent -gyda chynnydd o 0.75% i 1,735 achos.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney: "Mae'n ffigyrau yn dangos mai dioddefwyr dros 50 sy'n fwyaf tebygol o gael eu targedu ond gall unrhyw un gael ei dwyllo.
"Y peth gorau i wneud i daclo twyll yw gwneud pobl yn fwy ymwybodol ohono."
Sut i aros yn ddiogel
Mae Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig y cynghorion yma:
Byddwch yn ofalus wrth drosglwyddo arian yn electronig i rywun nad ydych yn ei adnabod.
Dyw banciau na'r heddlu byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i gyfrif arall.
Os ydych ar fin trosglwyddo swm enfawr o arian ystyriwch yn gyntaf ai twyll yw'r cyfan. Os oes gennych unrhyw amheuon peidiwch â throsglwyddo'r arian.
Mae modd i dwyllwr ffôn feddiannu negeseuon testun sy'n ddilys.
Gall twyllwyr ffôn roi'r argraff bod y rhif y maent yn ffonio ohono yn un dilys.
Yn aml mae dioddefwyr bregus yn unig, yn byw ar ben eu hunain ac felly bydd y twyllwr yn cymdeithasu - i'r graddau bod y dioddefwr yn edrych ymlaen i gael cysylltiad â'r twyllwr.
Y ffôn yw'r dull mwyaf hwylus i dwyllwr - ystyriwch ddyfeisiadau blocio galwadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017