Miloedd o seiclwyr yn cystadlu yn ras Velothon Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd nifer o ffyrdd ar gau yn ne-ddwyrain Cymru ddydd Sul wrth i dros 8,000 o seiclwyr gymryd rhan yn Velothon Cymru.
Roedd tri chwrs eleni, gyda'r ddwy ras hiraf yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd.
Roedd y ras fyrraf - 37 milltir (60km) - hefyd yn dod i ben yn y brifddinas ond yn dechrau ym Mrynbuga.
Dyma'r pedwerydd tro i'r digwyddiad gael ei gynnal.
Llynedd fe wnaeth y Velothon ddenu 15,000 o seiclwyr amatur a phroffesiynol.
Mae'r ras hiraf - 87 milltir (140km) - yn mynd trwy Fannau Brycheiniog, Pont-y-pŵl, Trecelyn a Chaerffili.
78 milltir (125km) yw hyd y ras arall.
Roedd Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio trigolion am y ffyrdd , dolen allanol i sicrhau diogelwch pawb sy'n cystadlu neu'n gwylio.
Ond roedd trefnwyr yn dweud bod nifer y ffyrdd oedd ar gau eleni yn "sylweddol is" na'r llynedd.
Fe agorodd y ffordd ddiwethaf am 17:00 nos Sul.
Y person cyntaf i gwblhau y ras hiraf oedd Robert Grover, aelod o dîm Velo Club Walcot o Gaerfaddon - fe groesodd e'r llinell mewn tair awr, 45 munud a 49 eiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018