Gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn 'peryglu safle adar'
- Cyhoeddwyd
Gallai safle nythu adar sydd â phwysigrwydd rhyngwladol gael ei effeithio gan gynllun i adeiladu gorsaf bŵer niwclear, yn ôl cadwraethwyr.
Mae pryder y gallai adeiladu gorsaf Wylfa Newydd hefyd niweidio gwlypdiroedd pan fydd hyd at 4,000 o weithwyr ar y safle.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru y byddai'n herio'r orsaf drwy'r broses gynllunio.
Mae cwmni Pŵer Niwclear Horizon yn dweud ei fod yn anelu at leihau niwed amgylcheddol.
Dros 1,000 o adar
Dadl yr ymddiriedolaeth yw bod y cynllun yn peryglu'r warchodfa mae'n ei reoli ym Mae Cemlyn.
Yno mae'r unig grŵp o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru, gyda phoblogaeth o dros 1,000 o adar.
Mae'r bae yn ardal gadwraeth arbennig, gyda chribyn o gerrig yn rhannu lagŵn a'r môr.
Ond mae amgylcheddwyr yn credu y gallai creu harbwr dwfn fel rhan o'r cynllun niwclear fod yn niweidiol iawn.
"Gall fod newidiadau i gerrynt morol drwy adeiladu morglawdd 500m yno," meddai Teresa Hughes, swyddog cynllunio sy'n cynghori'r grŵp amgylcheddol.
"Gallai wthio dŵr dros y cribyn a niweidio neu olchi'r argae i ffwrdd.
"Mae hynny'n effaith sydd â goblygiadau hirdymor."
Mae Horizon yn gwadu'r honiad, gan ddweud na fyddai unrhyw effaith andwyol ar y lagŵn.
'Lleihau'r effaith'
Mae pryder hefyd am benderfyniad i leoli llety i 4,000 o weithwyr ger safle o ddiddordeb gwyddonol dros y cyfnod adeiladu o 10 mlynedd.
Yn ôl y grŵp amgylcheddol, mae Tre'r Goff yn gartref i blanhigion prin, ffyngoedd, ymlusgiaid a mamaliaid bychain.
Dywedodd llefarydd ar ran Horizon eu bod wedi gweithio am "sawl blynedd" i ddatblygu eu cynllun, a'u "bwriad bob tro yw lleihau unrhyw effaith amgylcheddol" .
Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n gweithio gyda nifer o grwpiau lleol ar "nifer o brosiectau ecolegol eraill" yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018