Argymell gwahardd Rhianon Passmore am fethu rhoi prawf anadl

  • Cyhoeddwyd
Rhianon PassmoreFfynhonnell y llun, Labour Party

Mae Aelod Cynulliad Llafur yn wynebu cael ei gwahardd o'r Senedd am bythefnos am fethu â rhoi prawf anadl.

Fe wnaeth Rhianon Passmore bledio'n euog i fethu â rhoi sampl mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd ar 12 Chwefror.

Mae pwyllgor safonau'r Cynulliad wedi argymell ei gwahardd am 14 diwrnod.

Mae Ms Passmore wedi ymddiheuro, gan ddweud ei bod hi'n difaru torri cod ymddygiad aelodau.

Ymddiheuriad

Cafodd AC Islwyn, gafodd ei hethol yn 2016, waharddiad rhag gyrru am 20 mis, dirwy o £1,000 a chostau eraill o £720 ym mis Chwefror.

Daw argymhelliad y pwyllgor yn dilyn ymchwiliad gan y comisiynydd safonau, Syr Roderick Evans.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r comisiwn, dywedodd: "Rydw i'n difaru'n fawr fy mod wedi torri'r cod yn y ffodd yma, ac am gynnig fy ymddiheuriad am wneud hynny."

Methu rhoi sampl dwywaith

Yn ei datganiad, dywedodd ei bod wedi yfed dau neu dri gwydraid o win yng Nghaerdydd.

Ar ôl casglu ei char yn ddiweddarach, dywedodd ei bod wedi cael pwl o asthma ac wedi cymryd meddyginiaeth.

Wrth yrru cafodd broblem gyda'i char a bu'n rhaid galw am gymorth yr AA, ond wrth aros amdanynt fe gyrhaeddodd yr heddlu.

Clywodd y pwyllgor bod Ms Passmore wedi methu â rhoi sampl o anadl ddwywaith, wrth ochr y ffordd ac mewn gorsaf heddlu.

Dywedodd nad oedd yn gwybod pam iddi fethu â rhoi sampl, ond ei fod yn "bosib" bod athsma wedi cyfrannu at hynny.

Dywedodd y pwyllgor bod gwaharddiad o dair wythnos yn arferol, ond y dylai gael ei leihau i bythefnos gan fod yr aelod wedi edifar a chyfeirio ei hun at y comisiynydd.