Her yr actores Carys Eleri, salwch ei thad a'r effaith ar y teulu

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores Carys Eleri a'i chwaer, y ddarlledwraig Nia Medi, yn brysur yn ymarfer at daith feicio o Lundain i Baris i godi arian at elusen Motor Neurone - cyflwr sydd wedi effeithio eu tad y flwyddyn yma. Yma mae Carys Eleri, oedd yn chwarae rhan y Parch Myfanwy Elfed yn y gyfres Parch ar S4C, yn sôn am salwch ei thad a'r effaith ar y teulu:

Ffynhonnell y llun, Carys Eleri
Disgrifiad o’r llun,

Carys Eleri a'i thad David

"Dyw e ddim fel canser lle allwch weld y man sydd angen ei drin, a dilyn triniaeth sydd wedi cael ei ddarparu i filiynau o bobl. Mae hyn yn gyflwr anghyffredin heb reolau," meddai'r actores, a merch ifancaf David a Meryl Evans o Tymbl Uchaf ger Llanelli.

"Cafodd Dad y newyddion am y cyflwr ym mis Ionawr, ddyddie cyn oedd e a Mam fod i fynd ar cruise i Dde Affrica ac Awstralia. Roedd e'n sioc ofnadwy i ni gyd. Mae'n newyddion scary am nad oes lot o wybodaeth yn ei gylch a does dim un achos yn debyg i'r llall.

"Digwydd bod ar y pryd, ro'n i'n gweithio gyda niwrowyddonydd ar fy sioe ['Lovecraft (Not the sex shop in Cardiff)], a wedodd e wrtha i, 'This condition is as long as a piece of string - nobody knows how it will affect the individual, be prepared and try to stay calm'. Ond mae aros yn calm yn anodd."

Ffynhonnell y llun, Carys Eleri
Disgrifiad o’r llun,

Carys Eleri gyda'i thad a'i mam yn seremoni BAFTA Cymru yn Hydref 2017. Cafodd Carys Eleri ei henwebu am deitl yr Actores Orau am ei rhan yn y ddrama Parch ar S4C

Y peth cyntaf mae rhywun eisie gwneud, meddai, yw mynd at 'Doctor Google' a chymryd gymaint o wybodaeth i mewn ag sy'n bosib.

"Ond dyw hynna ddim o werth o gwbl. Rhaid mynd at ddoctoriaid, physios, nutritionists, occupational therapists mor gyflym â phosib i weld beth sy'n digwydd nesa'. Ac yn aml does dim atebion gyda nhw chwaith."

Mae cyflwr ei thad wedi effeithio arno'n eithaf cyflym, meddai Carys Eleri. O fewn pedwar mis roedd e mewn cadair olwyn. Ar hyn o bryd, gan fod ei gyhyrau yn dirywio cymaint - mae'n gorfod aros yn yr ysbyty tan fod y tŷ yn saff ac yn addas iddo allu byw yno.

"Mae angen gofalwyr arnom ni i ymdopi bellach ac mae hynny'n cymryd amser hir i'w roi yn ei le. Ond diolch i Dduw - mae Mam yn seren. Ar y ffôn o fore gwyn tan nos yn sortio pethe allan," meddai Carys Eleri.

"Pan gafon ni'r deiagnosis aeth hi ati yn syth i gynllunio wet room lawr llawr i hwyluso ymolchi. Roedd hyn pan oedd Dad yn medru cerdded - felly mae Mam wedi bod filltiroedd o flaen pawb. Yn anffodus - er iddi ddewis a phrynu bob dim - mae'n hala amser i gael adeiladwyr - a dim ond nawr maen nhw wedi gorffen y job.

Ffynhonnell y llun, Carys Eleri
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu gyda'i gilydd

Cymdeithas gref

"Ond y peth da ydi - erbyn i Dadi ddod allan o'r ysbyty - fydd y tŷ yn barod, a fyddwn ni yn fwy parod i roi'r gofal gorau iddo."

Mae dal i fyny gyda gofynion y cyflwr yn gamp yn ei hun, meddai, gydag amgylchiadau corfforol ei thad yn newid yn ddyddiol. Ond diolch byth am help llaw.

"Mae Mam a Dad yn ddiaconiaid yn y capel - ac mae cymdeithas y capel yn un gref a hyfryd - mae wastad rhywun mewn a mas o'r tŷ i helpu, i wrando ac i gynnig hwyl," meddai Carys Eleri.

"Ac mae Dad yn foi deallus, hawdd a chariadus. Y peth gore allwn ni wneud yw bod yn ni ein hunain - rhoi'r gofal yn ôl iddo fe, cadw chwerthin, treulio amser yn chware gemau a cwtsho lot. Mewn sefyllfaoedd fel hyn - mae cariad yn serennu."

Seiclo, a chadw'n bositif

Ar gyfer pen-blwydd Nia Medi yn 40 ym mis Medi, mae'r ddwy chwaer wedi gosod her i'w hunain, i seiclo o Lundain i Baris i godi arian i elusen MNDA (Motor Neuron Disease Association).

Ffynhonnell y llun, Carys Eleri
Disgrifiad o’r llun,

Carys Eleri a'i chwaer Nia Medi

"Mae hithe a finne fel Dadi, wastad wedi caru seiclo - ac mae'n help mawr i ni i dynnu'r ffocws o fod yn un negyddol i rywbeth positif," meddai Carys Eleri.

Mae'r ddwy yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol wrth baratoi at y digwyddiad, gan nodi eu cynnydd gyda'r hashnod #DwyDrosDad, dolen allanol.

"Mae ymarfer corff yn dda iawn i'r meddwl, felly mae hynny'n helpu lot ac ry'n ni'n codi arian at elusen sy'n barod wedi cynnig gymaint o help, ac sydd yn gwneud ymchwil gwerthfawr i mewn i'r cyflwr.

"Roedd Dadi yn athro chwaraeon, felly mae'n hoffi clywed beth ry'n ni wedi gwneud yn ddyddiol i hyfforddi a chodi arian.

"Mae gweld enwau pobl ni'n nabod ar y rhestr ar ein tudalen codi arian ni yn beth mor hyfryd - ffrindiau agos, rhai hen a newydd yn ein cefnogi ni, ac yn dangos gymaint o gariad a pharch at Dadi. Mae'n meddwl gymaint.

"Mae Dadi werth y byd. Does neb yn cwtsho fi fel fe, a fi'n disgwyl 'mlaen iddo fe ddod gartre - fel gall e gario 'mlaen rhoi orders i fi dorri'r lawnt, a chonan pan dw i wedi anghofio strimio ger rhyw goeden!"

Stori: Llinos Dafydd

Hefyd o ddiddordeb: