Cynnydd yng ngwylwyr cyfresi drama a ffeithiol BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Keeping Faith
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 9.5 miliwn o geisiadau i wylio Keeping Faith, gafodd ei darlledu'n Gymraeg hefyd dan y teitl Un Bore Mercher, ar yr iPlayer

Mae BBC Cymru wedi cofnodi ei chynulleidfaoedd uchaf ar gyfer cyfresi ffeithiol a drama am dros ddegawd, yn ôl adroddiad blynyddol y gorfforaeth.

Bu mwy nag 20 miliwn o geisiadau i wylio rhaglenni BBC Cymru ar iPlayer yn 2018 hyd yn hyn - sydd eisoes dros 40% yn uwch na'r ffigwr ar gyfer 2017 i gyd.

Cafodd Keeping Faith yn unig dros 9.5 miliwn o geisiadau pan ddangoswyd y gyfres yn gynharach eleni - y gyfres fwyaf poblogaidd erioed ar iPlayer heb fod yn ddrama rhwydwaith.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru fod llwyddiant Keeping Faith a Valley Cops yn dangos bod y buddsoddiad ychwanegol o £8.5m i BBC Cymru fel rhan o gytundeb Siarter y gorfforaeth, wedi talu ar ei ganfed.

Tynnu sylw at Gymru

Mewn wythnos pan mae dwy ddrama fawr wedi'u lleoli yng Nghymru - Hidden a Keeping Faith - dywedodd Mr Davies fod newid dramatig wedi bod yn y modd y caiff Cymru ei chynrychioli ledled y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Davies fod y buddsoddiad newydd wedi "talu ar ei ganfed"

"Fe wnaethom ni ymrwymiad clir i wella'r modd y caiff Cymru ei phortreadu ar y rhwydwaith - ac mae'r cynnydd dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn sylweddol.

"Yn ogystal â'r dramâu mawr, mae Family Farm, To Provide All People, Hayley, Rhod Gilbert's Work Experience, Valley Cops, The River Wye, Iolo's Snowdonia a Young, Welsh and Pretty Minted i gyd wedi tynnu sylw at ein gwlad.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae BBC Cymru nid yn unig wedi codi'r safon yn greadigol, ond rydyn ni wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar iPlayer, ar y cyfryngau cymdeithasol, ar wasanaethau symudol ac ar y radio.

"Yn ystod cyfnod o newidiadau anhygoel, rwy'n credu bod ein huchelgais a'n hymrwymiad ni i Gymru yn gwbl glir. Ac mae'n wych bod y buddsoddiad newydd wedi talu ar ei ganfed ar unwaith."