S4C mewn 'sefyllfa unigryw' i ddenu arian masnachol

  • Cyhoeddwyd
Euryn Ogwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Euryn Ogwen Williams yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Cynulliad

Mae S4C mewn "sefyllfa unigryw" i ddenu rhagor o arian masnachol, medd y dyn y tu ôl i adolygiad annibynnol o'r sianel.

Roedd Euryn Ogwen Williams yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant a chyfathrebu'r Cynulliad ddydd Iau.

Dywedodd Mr Williams, a gynhaliodd adolygiad annibynnol ar S4C ar ran Llywodraeth y DU, fod llwyfannau digidol a gwasanaethau gwelifo hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd.

Yn yr adolygiad gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth, yr argymhelliad oedd y dylai holl arian cyhoeddus y sianel ddod drwy'r drwydded deledu erbyn 2022, gan ddod â'r cytundeb presennol, sy'n gweld 8% o'r nawdd yn dod gan Lywodraeth y DU, i ben.

'Cyfleoedd'

Pan ofynnwyd iddo sut y gellid cryfhau'r ochr fasnachol er mwyn cynyddu eu hincwm, dywedodd Mr Williams: "Dydy hi ddim yn gweithredu ar yr un lefel â Netflix, dwi'n credu bod angen i ni fod yn ofalus nad y'n ni'n rhoi darlun rhy bositif.

"Ond mae yna gyfleoedd, yn sicr ar yr ochr ddigidol, yn enwedig yng Nghymru, ac yn enwedig mewn iaith leiafrifol.

"Mae hi mewn sefyllfa unigryw o fewn y farchnad, a gall neb arall gystadlu â hi mewn gwirionedd."

Ers i adolygiad annibynnol S4C gael ei chyhoeddi mae'r sianel wedi dechrau cyflwyno newidiadau i'r ochr fasnachol.

Ffynhonnell y llun, S4C

Dywedodd Mr Williams fod cynllun newydd S4C yn dangos fod y sianel yn cymryd ei chyfleoedd o ddifrif.

"Dwi'n credu fod y cynllun masnachol yn cael effaith ar bob rhan o'r sector gynhyrchu yng Nghymru," meddai.

"Nid am S4C yn unig mae hyn, ac mae S4C yn unigryw - dyma'r unig ddarlledwr yng Nghymru sy'n gallu buddsoddi'n uniongyrchol i Gymru, ac ar gyfer yr iaith Gymraeg yn nhermau buddsoddiad masnachol."

Ailstrwythuro

Rhan o ailstrwythuro S4C oedd penodi prif weithredwr yr orsaf, Owen Evans, yn gadeirydd ar y bwrdd sy'n cael ei alw'n SDML.

Dywedodd y sianel ei bod yn ymateb i argymhellion yr adolygiad annibynnol, sy'n argymell dod â'i hochr fasnachol dan oruchwyliaeth bwrdd rheoli'r sianel, a rhoi mwy o ryddid i S4C fuddsoddi a chreu cyllid masnachol.

Ffynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Williams bod modd angen manteisio ar gyfleoedd i werthu dramor yn sgil poblogrwydd cyfresi drama diweddar fel Craith

Yn ystod gwrandawiad y pwyllgor, dywedodd Mr Williams fod y twf mewn cynhyrchu drama o safon uchel, a phoblogrwydd cynyrchiadau S4C sydd wedi eu gwerthu dramor, yn dangos bod modd i'r orsaf fanteisio ar gyfleoedd gyda darlledwyr eraill.

"Bump i ddeng mlynedd yn ôl, roedd yna wrthwynebiad mawr i is-deitlo," meddai.

"Roedd pobl yn meddwl, 'Pwy sydd eisiau gwylio rhaglenni Cymraeg gydag isdeitlau?'"

Ond ychwanegodd fod poblogrwydd dramâu ansawdd uchel ar Amazon Prime a Netflix wedi creu marchnad newydd i raglenni gorau S4C.

"Mae gyda chi botensial marchnad yno, os gallwch chi greu'r syniad a'r ansawdd," meddai.