Cannoedd yn protestio yng Nghymru yn erbyn ymweliad Trump

  • Cyhoeddwyd
Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 150 o bobl i brotestio yn Abertawe

Mae protestiadau wedi eu cynnal yng Nghymru yn erbyn ymweliad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Mae Mr Trump a'i wraig, Melania, ar ymweliad yn y DU ddydd Iau a Gwener.

Daeth bron i 300 o bobl i ganol Caerdydd, tra bod digwyddiadau wedi eu cynnal yn Abertawe ac yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Catherine Fookes, bod y brotest yn y Senedd yn "dangos bod Cymru yn erbyn hiliaeth a rhagfarn rhyw Trump".

Mae Mr Trump wedi dweud ei fod yn teimlo'n "iawn" gydag unrhyw brotestiadau sy'n digwydd, a'i fod yn credu bod Prydeinwyr yn ei "hoffi llawer iawn".

Bydd Mr Trump yn cynnal trafodaethau â Phrif Weinidog y DU, Theresa May, cyn cyfarfod y Frenhines yn Windsor ddydd Gwener.

Mae trefniadau diogelwch llym yn Llundain, gyda disgwyl i nifer fawr brotestio yn erbyn ymweliad yr arlywydd.