Llywodraeth i roi £60m tuag at feithrinfeydd newydd

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa o £60m i ariannu meithrinfeydd newydd yng Nghymru.

Mae'n rhan o'u hymrwymiad i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni mewn gwaith sydd â phlant tair a phedair oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Bydd yr arian ar gael dros y tair blynedd nesaf ac ar gael i awdurdodau lleol a darparwyr preifat.

Fe fydd hynny'n cynnwys un ai sefydlu meithrinfeydd newydd neu adnewyddu rhai presennol.

'Lleihau straen ar incwm'

Bydd pwyslais penodol ar ddatblygu darpariaeth mewn ardaloedd sydd yn brin o wasanaethau gofal plant ar hyn o bryd, yn enwedig ardaloedd gwledig a difreintiedig.

Roedd y polisi yn un o'r prif rai ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad Cynulliad 2016.

Ers Medi 2017 mae wedi cael ei dreialu mewn saith ardal - Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, a Blaenau Gwent.

Y bwriad yw cynnig y ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan erbyn 2020.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnig gofal plant yn golygu cyfle i rieni allu cymryd mwy o oriau gwaith, meddai Huw Irranca-Davies

"Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau fod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ond yn helpu tuag at leihau'r straen ar incwm teuluol a sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag cymryd swyddi neu weithio oriau hirach," meddai'r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies.

"Bydd y buddsoddiad yn helpu i sicrhau bod y cynnig o 30 awr mor glir a hawdd â phosib i rieni ei ddeall, ac i blant gael mynediad ato."

Ym mis Mai daeth i'r amlwg fod nifer y rhieni oedd yn manteisio ar y cynnig o ofal plant am ddim yn is na'r disgwyl.

Fe wnaeth hynny olygu bod cynghorau wedi gwario dim ond £3.4m o'r £10m oedd wedi'i glustnodi yn 2017/18.

Dywedodd cynghorau mai diffyg niferoedd yn cofrestru oedd yn gyfrifol am hynny, ond mynnodd Llywodraeth Cymru ar y pryd fod galw am y gwasanaeth yn cynyddu.