Taith gerdded i gefnogi Steffan Lewis AC, sydd â chanser

  • Cyhoeddwyd
Steffan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steffan Lewis wybod fod ganddo ganser y coluddyn ym mis Rhagfyr

Bydd ffrindiau a theulu aelod Cynulliad sy'n dioddef o ganser yn cynnal taith gerdded ddydd Sadwrn i godi arian ar gyfer y ganolfan ble mae'n derbyn triniaeth.

Fe wnaeth AC Plaid Cymru, Steffan Lewis gyhoeddi ym mis Rhagfyr ei fod yn dioddef o ganser "pedwerydd cyfnod" ar ei goluddyn.

Bydd y daith gerdded tua 11 milltir o Gwmcarn i Goed-duon yn codi arian i Ganolfan Ganser Felindre yng ngogledd Caerdydd.

Dywedodd chwaer Mr Lewis, Nia Davies, sydd wedi trefnu'r digwyddiad, ei bod yn disgwyl gwleidyddion a staff o bob plaid i ymuno yn y daith.

Mae'r daith wedi'i threfnu i gyd-fynd â dathliadau pen-blwydd Mr Lewis yn 34, a bydd taith gerdded arall yn cael ei chynnal yn Llandudno, fydd hefyd yn codi arian i Felindre.

'Arbenigedd' staff

Dywedodd Mr Lewis ym mis Mai ei fod yn agos i golli'r frwydr â chanser ddechrau'r flwyddyn - cyfnod lle'r oedd yn "teimlo ei hun yn llithro".

Yn ôl yr aelod Cynulliad dros ranbarth Dwyrain De Cymru, dim ond trwy "arbenigedd" staff Ysbyty Felindre cafodd ei fywyd ei achub ar y pryd.

Mae'r daith gerdded wedi codi £9,000 eisoes, ac mae disgwyl i tua 170 o bobl gymryd rhan ddydd Sadwrn.

Mae cyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, y Llywydd Elin Jones ac Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, Alun Davies ymysg y rheiny fydd yn cerdded.

'Bod yno i'n gilydd

Dywedodd Mr Lewis: "Unwaith y cefais i'r diagnosis fe wnes i dderbyn negeseuon a chardiau gan bobl o bob lliw gwleidyddol.

"Rydyn ni'n cael ein beirniadu yng Nghymru am gael gwleidyddiaeth gysurus, ond rwy'n meddwl ei bod yn beth da bod gennym awyrgylch gwleidyddol ble rydyn ni'n gallu rhoi ein gwahaniaethau i un ochr a bod yno i'n gilydd pan mae rhywun yn wynebu sefyllfa fel rydw i.

"Rydw i mor ddiolchgar i fy ffrindiau, fy nghyd-weithwyr a fy nheulu, sydd wedi sicrhau nad ydw i erioed wedi teimlo ar ben fy hun ar hyd y daith."

Mae Mr Lewis yn bwriadu cerdded milltir olaf y daith cyn cyrraedd Clwb Rygbi Coed-duon.

Disgrifiad o’r llun,

Chwaer Steffan Lewis, Nia Davies, sydd wedi trefnu'r daith gerdded

Dywedodd Ms Davies bod y gefnogaeth i'r digwyddiad wedi bod yn "ysgubol"

"Pan wnes i a rhai o ffrindiau Steffan sôn yn gyntaf am drefnu taith gerdded i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn a chodi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre a'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud, doedden ni erioed yn meddwl y byddai'r digwyddiad yn profi'n gymaint o lwyddiant," meddai.

Dywedodd Ysbyty Felindre y byddai unrhyw arian sy'n cael ei godi yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion a chyfrannu at brosiectau ymchwil.

Bydd y cerddwyr yn dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Cwmcarn am 09:15, gyda'r gobaith o gyrraedd y terfyn yng Nghlwb Rygbi Coed Duon o tua 14:00.