Nodwydd micro yn 'chwyldro' yn y maes iechyd
- Cyhoeddwyd
Gallai clwtyn clyfar sy'n cynnwys nodwyddau micro i drosglwyddo inswlin fod yn "chwyldroadol" o ran trin pobl sy'n dioddef o glefyd siwgr, yn ôl gwyddonwyr.
Byddai'r nodwydd sy'n mesur 0.7mm fod yn llai o rwystr na'r nodwyddau cyffredin gan iddo dyllu wyneb y croen yn unig.
Byddai'r clwtyn yn synhwyro lefel yr inswlin cyn i'r nodwydd micro ryddhau'r dos.
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn credu bydd y nodwyddau micro yn newid triniaethau meddyginiaethol mewn sawl ffordd, fel bod yn sownd i chwistrell i dderbyn brechiad.
'Costio llai na £1'
Dywedodd Yr Athro Owen Guy o Brifysgol Abertawe mai'r prif nod yw cyfuno'r clwtyn clyfar a'r chwistrellydd
Ond, yn y cyfamser, y prif ffocws yw cynhyrchu'r nodwyddau silicon dros y ddwy flynedd nesaf, allai fod gwerth "biliynau o bunnoedd."
"Dim ond nifer fechan iawn o nodwyddau micro sy'n cael ei datblygu a heb os nac oni bai dim ond nifer fach iawn sydd ar y farchnad," meddai.
Ychwanegodd Yr Athro Owen buasai'r nodwyddau micro yn costio llai na £1, a dywedodd eu bod "yn y cyfnod diwethaf o gynhyrchu'r prototeip."
Mae ychydig llai na 3.7m o bobl yn y DU wedi cael diagnosis o gleyfd siwgr yn ol ffigyrau swyddogol.
'Chwyldro'
"Bydda'r system fonitro wedi'i gysylltu i system fyddai'n bwydo fewn i ffôn clyfar, ac mae'n dweud wrth y person pryd i chwistrellu a faint o ddos," meddai'r Athro Owen.
Yn ôl Huma Ashraf o SPTS Technologies, bod datblygu'r nodwyddau meicro yn bwysig oherwydd ei fod yn "chwyldro" o ran y ffordd mae nodwyddau yn cael eu defnyddio i chwistrellu inswlin.
Mae'r prosiect wedi cael ei groesawu gan Diabetes UK.
"Mae unrhyw dechnoleg sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl weinyddu inswlin yn beth da," meddai Douglas Twenefour o'r elusen.