Gŵyl yn agor i ddathlu treftadaeth ardal Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd
Band yr Oakley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Seindorf yr Oakeley yn perfformio fel rhan o'r ŵyl ym Mlaenau Ffestiniog

Cafodd gŵyl sy'n dathlu treftadaeth chwarelyddol ardal Ffestiniog ei hagor yn swyddogol brynhawn Sadwrn.

Mae Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog yn cynnwys wythnos o weithgareddau ac wedi'i threfnu i atgyfnerthu cais bröydd llechi Gwynedd am statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Mae'r cais hwnnw'n cwmpasu saith o ardaloedd sydd ynghlwm a'r diwydiant llechi, o Dinorwig a Dyffryn Ogwen i Abergynolwyn ac Aberllefenni.

Fel rhan o'r dathliadau ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn, cafodd ffanffer oedd wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y digwyddiad ei chlywed am y tro cyntaf yn gyhoeddus, wrth i Seindorf yr Oakeley ei pherfformio.

Disgrifiad,

Bethan Jones Parry yw Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog.

Mewn gorymdaith ar hyd hen lwybr sy'n cysylltu'r chwareli a'r dref, cafodd nifer o faneri eu cario -un yn dyddio o'r frwydr am hawliau chwarelwyr oedd yn dioddef o silicosis yn y 1970au, ac eraill wedi eu cynllunio'n ddiweddar gan ddisgyblion ysgolion y Moelwyn a Maenofferen.

Hefyd yn rhan o'r dathliadau mae Gŵyl Car Gwyllt - gŵyl o gerddoriaeth, fydd yn dod i derfyn gyda pherfformiad cyhoeddus cyntaf y band Anweledig ers blynyddoedd.

Mae disgwyl i gais ardaloedd llechi Gwynedd am statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO fynd gerbron Llywodraeth y DU ym mis Medi, gyda phenderfyniad gan UNESCO yn 2020.