Annog gweinidogion Llywodraeth Cymru i rannu swyddi

  • Cyhoeddwyd
Llywodraeth Cymru

Dylai gweinidogion o fewn Llywodraeth Cymru allu rhannu eu swyddi, yn ôl adroddiad gan grŵp o ACau.

Dywedodd pwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad eu bod eisiau i weinidogion ddangos esiampl i gyflogwyr eraill yng Nghymru drwy drefniadau gwaith creadigol a hyblyg.

Yn ôl yr ACau, mae cyflogwyr anhyblyg a gwahaniaethu yn golygu bod mamau'n fwy tebygol o fod mewn swyddi sy'n talu llai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried cynnwys yr adroddiad ac ymateb iddo yn y man.

'Synnwyr economaidd'

Mae'r adroddiad yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn dangos y ffordd wrth annog rhai o'u prif arweinwyr i rannu eu swyddi.

Maen nhw hefyd yn galw am newid y gyfraith er mwyn caniatáu rhannu swyddi cyhoeddus fel gweinidogion a chynghorwyr.

Dylai cyflogwyr yng Nghymru hefyd dderbyn cyngor arbenigol gan y llywodraeth, meddai'r ACau, ar sut i ddelio gyda cheisiadau ar gyfer gweithio'n hyblyg.

"Yn ystod ein hymchwiliad fe glywon ni brofiadau unigol brawychus," meddai cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths.

"Menywod oedd wedi colli'u swyddi yn ystod eu cyfnod mamolaeth, gyrfaoedd wedi'u llesteirio oherwydd diffyg cyfle i weithio'n hyblyg, a thadau oedd wedi'u hatal rhag cymryd cyfrifoldeb dros ofal oherwydd agweddau diwylliannol.

"Dyw atal cyfradd sylweddol o'r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a'u profiadau i'r gweithlu ddim yn deg a ddim yn gwneud synnwyr economaidd.

"O ganlyniad i newidiadau technolegol, cymdeithasol ac economaidd, nawr yw'r adeg i foderneiddio'r gweithle er mwyn sicrhau eu bod nhw'n addas i bawb yn y dyfodol, nid rhieni yn unig.

"Rydyn ni'n credu y gall Llywodraeth Cymru osod safon wrth hyrwyddo gweithio'n hyblyg, sicrhau bod sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus hefyd yn gweithredu yn yr un modd, ac ailasesu eu cynnig newydd ar ofal plant."