Nesdi Jones: Delio gyda gorbryder ar ôl cael babi

  • Cyhoeddwyd
Nesdi'n mynd am dro am y tro cyntaf gyda Cadi-GlynFfynhonnell y llun, Nesdi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Nesdi'n mynd am dro am y tro cyntaf gyda'i merch

Mae Nesdi Jones o Gricieth wedi gwneud enw i'w hun fel cantores Bhangra gan gyrraedd brig y siartiau Asiaidd ond drwy'r cyfan mae wedi bod yn dioddef o orbryder sydd wedi ei "bwyta'n fyw" ar brydiau.

Erbyn hyn, mae hi'n fam i ferch fach, Cadi-Glyn, ac mae'r pwysau wedi bod yn aruthrol arni wrth geisio ymdopi gyda'i gorbryder sydd weithiau'n ei rhwystro rhag gadael y tŷ.

Dydy bywyd ddim wedi bod yn hawdd i Nesdi Jones.

Cafodd ei cham-drin pan oedd yn blentyn: rhoddwyd y dyn oedd yn gyfrifol yn y carchar pan oedd hi'n 22 oed.

Dywed hefyd iddi ddioddef ymosodiad rhywiol pan oedd hi'n 18 oed.

Mae wedi gorfod delio gyda salwch meddwl o oed ifanc.

"Ges i ddiagnosis o PTSD, iselder a gorbryder pan o'n i'n bymtheg oed," meddai'r ferch 25 oed, sydd bellach yn byw yng Nghilgwri (The Wirral).

"Roedd hynny ddeng mlynedd yn ôl, bellach. Wnaeth pethau waethygu pan ro'n i'n feichiog, roedd fy hwyliau i'n uffernol o isel ac roedd y PTSD allan o reolaeth.

"Roedd digwyddiadau o'r gorffennol yn dod yn ôl yn fyw yn aml iawn. Ond wnes i sôn wrth y fydwraig a diolch byth fe wnaeth tîm iechyd meddwl mamolaeth fy helpu.

"Dwi'n dal i gael adegau anodd iawn, ond yn araf bach dwi'n trïo taclo'r salwch.

"Ar fy ngwaethaf dwi'n taflu i fyny ac yn llewygu. Ac mae o'n cymryd tridiau i deimlo'n 'iawn' unwaith eto oherwydd mae o'n sugno'r egni allan ohona i jest i gwffio yn erbyn yr attacks."

Ffynhonnell y llun, Nesdi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nesdi yn canu mewn Punjabi, Hindi, Cymraeg a Saesneg

Ers geni Cadi-Glyn ddiwedd mis Mai, mae Nesdi Jones wedi bod yn cymryd pethau'n araf deg, a chael help teulu a ffrindiau.

"Rhaid i mi wneud popeth yn araf, a gyda fy nghariad neu fy rhieni wrth fy ochr. Mae mynd allan yn anodd iawn, a dwi'n gallu cymryd oriau i adael y tŷ.

"Mae ton o banig yn dod drosta i, fel pe bawn i wedi anghofio rhywbeth neu ragweld bod rhywbeth drwg am ddigwydd. Mae hyd yn oed meddwl am bawb yn edrych arna i'n fy ngwneud i'n nerfus."

Am y mis cyntaf, roedd hi'n meddwl am bob esgus dan haul i beidio â gadael y tŷ, meddai. Roedd bob trip i'r siop neu dro bach yn her.

Trafod yn helpu

Mae Nesdi wedi rhannu llun ar ei thudalennau cymdeithasol ohoni hi'n cario Cadi-Glyn yn yr awyr agored am y tro cyntaf ers iddi gael ei geni, dolen allanol - gyda neges yn dathlu ei bod hi wedi llwyddo, er bod ganddi ofn mynd i lefydd cyhoeddus gyda'i merch oherwydd ei gorbryder.

"Mae o mor flinedig i baratoi'n feddyliol ac yn gorfforol, ond mae'r teimlad o lwyddiant werth o'n y diwedd.

"Dwi hyd yn oed wedi llwyddo i fwydo Cadi-Glyn fy hun mewn lle cyhoeddus - win enfawr i fi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Nesdi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Nesdi a Cadi-Glyn

Mae trafod yn agored a rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn bwysig ac yn rhywbeth i'w groesawu, meddai'n bendant.

"Dyna pam dwi mor agored am fy mhroblemau iechyd meddwl - dwi ddim eisiau i neb wneud yr un camgymeriadau â fi, a pheidio siarad gyda neb.

"Dydy salwch meddwl ddim yn rhywbeth i'w guddio.

"Mae 'na gymaint o bobl, grwpiau, elusennau ac ati yno i helpu. Mae angen codi llais, a chael y drafodaeth - a gobeithio gwneith hynny arwain pobl i chwilio am gymorth a pheidio â bod ag ofn."

'Y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth'

Mae Nesdi Jones yng nghanol recordio ei hail gân Punjabi/Cymraeg a fydd allan ddiwedd yr haf 2018.

Mae'r gorbryder yn anodd, meddai, ond mae ganddi dechnegau wrth geisio delio â'r salwch wrth berfformio.

Ffynhonnell y llun, Nesdi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nesdi wedi bod ar frig y siartiau Punjabi

"Dwi wedi dod i ddysgu tipyn o dechnegau ar hyd y blynyddoedd. Weithiau dwi'n ofnadwy o bryderus, ond unwaith dwi ar y llwyfan, mae'r teimladau'n diflannu. Ac unwaith eto, mae gen i bobl o fy nghwmpas sy'n fy helpu," meddai.

"Mae rhai pobl yn camgymryd fy ngorbryder fel bod yn snobby am fy mod i'n ceisio cuddio neu dwi'n mynd yn ddistaw.

"Ond erbyn hyn dwi'n fwy agored am fy mywyd personol, ac mae pobl yn glên iawn ac yn deall, sy'n gwneud fy ngwaith i lawer hawsach."

Y pethau angenrheidiol i'w cofio, meddai, wrth gwffio gorbryder ydy siarad a thrafod, boed hynny gyda doctoriaid, therapyddion, teulu neu ffrindiau, a hefyd cymryd pwyll.

"Y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth, a rhaid gwneud beth sydd orau i chi'n bersonol, a hynny yn eich amser eich hun."

Stori: Llinos Dafydd