Troseddwr rhyw, David Boswell yn dal i gael tâl cyngor

  • Cyhoeddwyd
David Boswell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Boswell yn aelod o'r lluoedd arfog am 12 mlynedd

Bydd cynghorydd sir sydd wedi ei ddedfrydu i garchar am gam-drin a threisio dwy ferch yn parhau i gael ei dalu'r mis hwn gan yr awdurdod lleol.

Dywed Cyngor Penfro bod yn rhaid aros cyfnod penodol tan fod ganddynt hawl cyfreithiol i rwystro taliadau cyflog i David Boswell.

Cafodd y cynghorydd 58 oed o Ddoc Penfro ei garcharu am 18 mlynedd am dreisio merch ifanc a cham-drin un arall.

Mae wedi gwrthod ymddiswyddo fel cynghorydd ac mae elusen plant yr NSPCC wedi galw am newid y gyfraith.

Cafodd Boswell ei ethol fel cynghorydd ym Mai 2017, ac mae hefyd yn gyn-faer tref Penfro.

Dim modd ei ddiarddel

Yn ystod ymchwiliad yr heddlu fe wnaeth y cyn-filwr barhau i dderbyn ei gyflog blynyddol o £13,600.

Fe wnaeth o barhau i fynychu cyfarfodydd y cyngor tan yr achos llys.

Yn ôl y gyfraith does ond modd diarddel cynghorydd os ydyn nhw heb fynychu cyfarfod am chwe mis yn olynol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Boswell yn parhau i gael ei restru fel cynghorydd ar wefan y cyngor sir

Fe gafwyd Boswell yn euog o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un o dreisio - ond dywed y cyngor sir nad oedd ganddynt hawl yn ôl y gyfraith i'w ddiarddel yn syth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr NSPCC eu bod am weld newid yn y gyfraith er mwy "sicrhau nad yw sefyllfa o'r fath yn cael ei hailadrodd".

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru fod achosion o'r fath yn eithriadol o brin.

"Mae angen edrych ar y sefyllfa o ran y fframwaith cyfreithiol presennol ar frys.

"Dyw euogfarn ddim o reidrwydd yn golygu diarddel awtomatig, gan fod cyfnod o 28 ddiwrnod yn cael ei neilltuo ar gyfer apêl posib.

"Mae angen edrych ar hyn ar frys, yn enwedig gan fod y drosedd yma yn amlwg yn gwbl groes i swyddogaeth statudol cynghorwyr i sicrhau fod bob plentyn o fewn tiriogaeth yr awdurdod lleol yn cael eu gwarchod a'u hamddiffyn."