Carcharu cyn-faer Penfro am 18 mlynedd am droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
David Robert Boswell
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Boswell ei ethol i gynrychioli ward Penfro - Santes Fair Gogledd ym mis Mai 2017

Mae cyn-faer Penfro, David Boswell wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd am gam-drin rhyw yn erbyn merched o dan 13 oed.

Yn Llys y Goron Abertawe cafwyd Boswell, sy'n 58 oed, yn euog o bedwar achos o ymosod yn anweddus ac un o dreisio.

Bydd yn treulio dwy flynedd arall ar drwydded wedi iddo gael ei ryddhau.

Yn y llys cafodd datganiadau yn nodi effaith yr ymosodiadau eu darllen ar ran y ddwy ddioddefwraig, gafodd eu cam-drin pan yn blant yn ystod y 1990au cynnar.

'Wedi cael fy niweidio'

Nodwyd pa mor "ofnus" oedd y ddwy o gael Boswell o'u cwmpas pan yn blant a'u bod yn parhau i deimlo felly heddiw.

Dywedodd un o'r dioddefwyr: "Pan oeddwn yn fy arddegau roeddwn yn teimlo'n isel ac yn wahanol i fy nghyfoedion wrth i mi ddod i ddeall fod yr hyn a ddigwyddodd i mi ddim yn iawn."

Ychwanegodd ei bod wedi symud o'r ardal ble cafodd ei magu a'i bod wedi torri cysylltiadau gyda hen ffrindiau er mwyn ceisio symud ymlaen o'r hyn ddigwyddodd.

Roedd y ddioddefwraig arall wedi cadw'r hyn ddigwyddodd iddi rhag ei theulu am flynyddoedd, a dywedodd bod y cyfan wedi gwneud iddi deimlo "cywilydd" ac "embaras".

Ychwanegodd y ddynes: "Rwy'n teimlo fel rhywun od. Rwy'n teimlo fel 'mod i wedi cael fy niweidio wedi'r hyn a wnaeth e i mi."

Gwahardd gan y Ceidwadwyr

Cafodd Boswell ei ethol i gynrychioli ward Penfro - Santes Fair Gogledd ym mis Mai 2017.

Aeth ymlaen i fod yn faer, ond bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar ôl cael ei gyhuddo gan yr heddlu.

Cafodd y cyn-filwr yna ei wahardd gan y Blaid Geidwadol.