Gwasanaethau menopos 'yn methu menywod' medd ymgyrchwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iechyd yn rhybuddio nad yw menywod sy'n wynebu'r menopos yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, am nad oes 'na wasanaeth arbenigol ar gael yng Nghymru.
Dywedodd un ddynes o Gasnewydd iddi orfod rhoi'r gorau i'w gwaith oherwydd na chafodd hi'r driniaeth iawn at symptomau'r menopos yn ddigon cynnar.
Mae ymgyrchwyr iechyd yn galw am well gwasanaethau wrth i fenywod gyrraedd oed diwedd eu mislif.
Yn ôl mudiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (Fair Treatment for the Women Of Wales neu FTWW), mae menywod yn cael eu methu oherwydd diffyg gwasanaethau arbenigol.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn sefydlu Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod er mwyn darganfod ym mha feysydd y mae angen gweithredu brys.
Roedd gan Lisa Nichols swydd gyfrifol gyda darparwr gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.
Roedd hi'n dwlu ar ei gwaith ac yn hyderus ei bod hi'n dda yn ei swydd.
Ond dechreuodd ddatblygu symptomau cynnar menopos pan oedd hi'n 45 oed, oedd yn cynnwys blinder, methu cysgu, chwysu yn y nos, a thonnau o deimlo'n boeth.
Gofynnodd am help gan ei meddyg teulu ar sawl achlysur dros gyfnod o flynyddoedd, ond roedd hi'n anodd iddi ddod o hyd i'r driniaeth iawn.
Methu gweithio rhagor
Fe ddaeth i'r pwynt lle nad oedd hi'n gallu gweithio rhagor, a doedd hi ddim yn teimlo ei bod hi'n gallu siarad â'i phennaeth.
Dywedodd wrth raglen Eye On Wales BBC Cymru: "Roedd e'n gwaethygu ac ro'n i'n meddwl nad o'n i'n gallu parhau â'r gwaith.
"Ro'n i'n poeni fy mod i'n mynd i fethu ac ro'n i'n poeni y byddwn i'n colli fy swydd.
"Felly fe benderfynais ymddiswyddo."
Mewn arolwg a gafodd ei gynnal gan TUC Cymru, dywedodd 9 o bob 10 menyw mewn gwaith a oedd wedi bod drwy'r menopos eu bod wedi cael effaith uniongyrchol ar eu gwaith.
Mae FTWW yn lansio ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau menopos ym mhob rhan o'r wlad er mwyn ei gwneud hi'n haws i fenywod eu cyrraedd.
Dywedodd Debbie Shaffer ar ran y mudiad nad mater bychan yw hyn: "Mae'n effeithio ar 52% o'r boblogaeth yng Nghymru, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb at fenywod y genedl hon i arwain y ffordd."
Ar hyn o bryd, dim ond dau glinig sy'n arbenigo ar y menopos sydd yna yng Nghymru. Mae un ohonyn nhw yng Nghwmbrân, dan reolaeth y Dr Charlotte Fleming o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Dywedodd Dr Fleming wrth Eye on Wales: "Mae rhoi HRT mor ddiogel a mor hawdd - dyma ddylai fod y driniaeth gyntaf i'r mwyafrif.
"Mae'n hollbwysig ein bod hi'n cael mwy o ofal arbenigol, fel y gall pob menyw gael y gofal sydd ei angen arni."
Ychwanegodd Debbie Shaffer ei bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n gwrando ac yn gweithredu: "Mae'n gwneud synnwyr economaidd cefnogi cyfran mor fawr o'r boblogaeth fel y gallan nhw barhau i weithio, darparu gofal a mwynhau iechyd gwell yn yr hirdymor.
"Mae hynny'n arbed arian i'r pwrs cyhoeddus yn y pendraw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymr nad oes cynllun ar hyn o bryd i edrych ar driniaeth menopos, ond eu bod yn cymryd iechyd menywod o ddifrif: "Rydym wedi comisiynu Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn ddiweddar, er mwyn edrych ar faterion lle mae angen gweithredu brys."
'Bwlch ar fy CV'
I Lisa Nichols, a roddodd y gorau i'w swydd, mae'n fater brys.
Mae hi'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac wedi tair blynedd o chwilio am help, llwyddodd i gael ei chyfeirio at y clinig.
"Rwy'n deffro ac rwy'n teimlo bod diwrnod newydd sbon o'm blaen," meddai.
"Petawn i wedi cael y driniaeth iawn yn gynt, fyddwn i byth wedi dod i'r penderfyniad i roi'r gorau i'm swydd."
"Nawr mae gen i fwlch o flwyddyn ar fy CV."
Eye On Wales, BBC Radio Wales am 18:30 ddydd Mercher 18 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2017