AS Ceidwadol yn galw am gael Plaid yn Llywodraeth y DU

  • Cyhoeddwyd
Anna SoubryFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Soubry yn un o'r ASau Ceidwadol sydd yn erbyn Brexit

Mae AS Ceidwadol wedi galw am sefydlu "llywodraeth o undod cenedlaethol" yn San Steffan fyddai'n cynnwys Plaid Cymru.

Dywedodd Anna Soubry, un o 12 o Dorïaid wnaeth wrthryfela yn erbyn Theresa May dros Brexit, y gallai ASau Plaid ymuno â'r SNP a Llafur mewn llywodraeth drawsbleidiol.

Awgrymodd Plaid Cymru y bydden nhw'n ystyried y peth os dyna fyddai'r unig ffordd o atal "Brexit caled".

Dywedodd Ms Soubry wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fodd bynnag ei bod hi'n gefnogol o Mrs May ac y byddai'n "wallgofrwydd llwyr" ceisio ei disodli.

'Pobl gall, pragmatig'

"Y broblem ydi, dwi ddim yn meddwl mai hi sydd mewn rheolaeth bellach," meddai Ms Soubry, sydd o blaid aros yn yr UE.

"Does gen i ddim amheuaeth mai Jacob Rees-Mogg [sydd o blaid Brexit] sy'n rhedeg ein gwlad."

Yn ôl Ms Soubry, yr ateb oedd sefydlu llywodraeth drawsbleidiol.

"Bydden i'n bersonol yn anwybyddu'r fainc flaen Llafur ac yn ymestyn y tu hwnt i hynny, gan gynnwys Plaid Cymru, yr SNP a phobl gall, pragmatig eraill sy'n credu mewn rhoi buddiannau'r wlad yn gyntaf," meddai.

Mewn ymateb, dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards y byddai ei blaid yn "gweithio gyda gwleidyddion call o bob plaid i atal Brexit caled".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jonathan Edwards y byddai Plaid Cymru'n ymuno â llywodraeth drawsbleidiol "os fydd raid"

"Rydyn ni'n gyson wedi pleidleisio dros amddiffyn swyddi, cyflogau a safonau byw pobl wrth aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau, ond os oes angen ymuno â llywodraeth amlbleidiol i wneud i hynny ddigwydd, dyna fydd raid," meddai.

Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU "mewn llanast llwyr" yn dilyn pleidleisiau'r wythnos hon yn San Steffan ar Brexit.

Ond doedd dim pwrpas cynnal etholiad cyffredinol arall, meddai, gan fod Llafur "yn rhannu union yr un polisi ar Brexit â'r Torïaid".

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud yn y gorffennol na fyddai hi'n clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Fe wnaeth Ms Soubry feirniadu bygythiadau chwipiau ei phlaid, oedd wedi rhybuddio y gallai gwrthwynebu Mrs May arwain at gynnal etholiad cyffredinol arall.

"Byddai'n hollol wallgof cynnal brwydr arweinyddol nawr, yn ystod y cyfnod anoddaf i'n gwlad ni ers yr Ail Ryfel Byd."