Cynnig i ostwng oedran pleidleisio'r Cynulliad i 16
- Cyhoeddwyd

Gallai pobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio yn etholiad nesaf y Cynulliad dan gynlluniau newydd.
Bydd trafodaethau hefyd yn parhau gyda'r pleidiau gwleidyddol er mwyn ceisio cynyddu nifer yr ACau o'r 60 presennol.
Dywedodd y Llywydd Elin Jones: "Gyda phwysau cynyddol a chyfrifoldebau ychwanegol y senedd hon, fy marn i yw bod angen i ni weithredu cyn gynted â phosibl."
Cadarnhaodd y bydd y Cynulliad yn cael ei hailenwi'n ffurfiol yn Senedd cyn yr etholiad nesaf yn 2021.
'Gwerthfawrogi eu barn'
Daw'r cynigion yn dilyn cyhoeddiad adroddiad McAllister ym mis Rhagfyr y llynedd, ddywedodd bod angen 20 i 30 o ACau ychwanegol ar y Cynulliad.
Dywedodd yr adroddiad hwnnw y byddai angen yr ACau ychwanegol er mwyn delio â'r llwyth gwaith cynyddol - fydd yn "debygol o drymhau" yn sgil Brexit.
Fe wnaeth y panel hefyd argymell newid y system bleidleisio i un fwy cyfrannol - y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Ar y diwrnod olaf cyn y gwyliau haf, fe wnaeth comisiwn y Cynulliad - sy'n gyfrifol am waith dydd i ddydd y Senedd - gyhoeddi canfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus i'r argymhellion.
Ychwanegodd y Llywydd y byddai gostwng yr oedran pleidleisio yn dangos i bobl ifanc "ein bod yn gwerthfawrogi eu barn".
Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi eu blaenoriaethau deddfu ar gyfer y tymor y ddod, oedd eisoes yn cynnwys gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017