Carcharu dyn am ymosod ar swyddogion heddlu a staff ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Kevin Humphrey JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ymosodiad Kevin Humphrey Jones ei ddisgrifio fel un "ffiaidd a cwbl annerbyniol"

Mae dyn o Ynys Môn wedi ei garcharu am 20 wythnos ar ôl pledio'n euog i sawl cyhuddiad, gan gynnwys ymosod ar swyddogion heddlu ac ymosod ar nyrs dan hyfforddiant.

Fe ymddangosodd Kevin Humphrey Jones, 33 o Fodffordd, Llangefni, o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau.

Cafodd Mr Jones ei arestio yn wreiddiol am ddwyn sawl eitem o siop Debenhams ym Mangor.

Dywedodd Glyn Roberts ar ran yr amddiffyniad fod Mr Humphrey Jones yn teimlo cywilydd am ei ymddygiad, a bod ei weithredoedd yn ganlyniad i'r cyffuriau a gymerodd cyn y digwyddiad.

Yn ôl Mark Jones o Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru mae'r digwyddiad yn esiampl arall o ymosodiadau "ffiaidd a cwbl annerbyniol" yn erbyn swyddogion.

Fe blediodd Mr Humphrey Jones yn euog i ladrata, pedwar cyfrif o ymosod ar yr heddlu, dau gyfrif o ymddygiad bygythiol, un cyfrif o ymosod cyffredin ac un o achosi gwerth £65 o ddifrod i'w gell.

Bygwth, cicio a phoeri

Pan gafodd Mr Humphrey Jones ei arestio mae'n ymddangos ei fod wedi bygwth swyddogion heddlu drwy ddweud y byddai'n ymosod arnynt pan "nad oes camerâu o'u cwmpas".

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi dechrau teimlo'n benysgafn yn y ddalfa, o ganlyniad i'r Xanex yr oedd wedi ei gymryd yn gynharach yn y dydd, ac fe gafodd ei gymryd i Ysbyty Gwynedd.

Ond ar ôl clywed nad oedd yn cael smocio ar dir yr ysbyty, clywodd y llys fod Mr Humphrey Jones wedi bygwth, cicio a phoeri ar ddau swyddog heddlu wrth iddynt geisio ei dawelu.

Cafodd dau swyddog arall eu cicio ar ôl cael eu tynnu mewn i'r digwyddiad.

Ar ôl ceisio helpu tawelu'r dyn, cafodd nyrs dan hyfforddiant, oedd yn 21 oed, ei chicio ar ôl i Mr Humphrey Jones ddatgan na fyddai'n cael ei arestio gan ei bod hi'n nyrs.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

Ymosodiadau 'ffiaidd'

Dywedodd Mr Jones na ddylai ymosodiadau ar swyddogion gael ei derbyn fel "rhan o'r swydd", gan bwysleisio ei bod hi'n "amser i'r rhai mewn pŵer gydnabod hyn".

"Unwaith eto mae swyddogion heddlu yn dioddef o ymosodiadau ffiaidd a chwbl annerbyniol wrth gyflawni eu dyletswyddau yn amddiffyn y cyhoedd," meddai.

Mae'r swyddogion a fu'n rhan o'r ymosodiadau bellach yn derbyn cefnogaeth gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru.