Ymosodiadau ar staff 999: Cynnig cosbi'n llymach
- Cyhoeddwyd
Bydd ACau yn pleidleisio yn ddiweddarach ynglŷn â chyfraith newydd sy'n cynnig cosbi unigolion yn llymach os ydyn nhw'n ymosod ar weithwyr yn y gwasanaethau argyfwng.
Yr AS Llafur Chris Bryant sy'n cynnig y ddeddf ac mae eisiau dyblu'r ddedfryd fwyaf llym ar gyfer ymosodiad cyffredin o 6 mis i 12 mis.
Bydd gwleidyddion Bae Caerdydd yn penderfynu a ddylai'r gyfraith fod yn weithredol yng Nghymru.
Dylai gweithwyr argyfwng Cymru gael eu hamddiffyn yn yr un modd â gweithwyr yn Lloegr meddai'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Neges glir
Yn ôl Mr Bryant mae 20 ymosodiad y dydd yng Nghymru: "Mae ymosodiad ar weithiwr argyfwng, mewn ffordd, yn ymosodiad arnom ni i gyd, oherwydd maen nhw yn ceisio achub bywydau pobl eraill.
"Dwi'n credu bod angen i ni ddweud yn eglur ac yn uchel os ydych chi yn ymosod ar weithiwr yn y gwasanaethau argyfwng wnawn ni ddim goddef hynny."
Mae egwyddorion y ddeddf gan Mr Bryant wedi eu cefnogi gan weinidogion Llywodraeth y DU ac mae disgwyl i ACau'r Ceidwadwyr Cymreig gefnogi'r ddeddf ddydd Mawrth hefyd.
'Dychrynllyd'
Dywedodd Mr Gething fod hi'n "ddychrynllyd" clywed am weithwyr yn dioddef ymosodiadau.
"Mae'r ddeddf hon yn rhan o'r ateb i ddelio gyda hynny", meddai.
O dan y drefn bresennol, mae'n rhaid i ACau roi sêl bendith i ddeddfwriaeth sy'n dod o San Steffan os yw'n ymwneud gyda phwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Yn yr achos yma mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y cynnig am fod y gyfraith yn effeithio'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau tân ac achub, meysydd sydd wedi eu datganoli.
Byddai'r ddeddfwriaeth dal angen ei phasio gan ASau hyd yn oed os yw'r cynnig cydsyniad yn cael ei basio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2016