Galw'r heddlu i gamdriniaeth ysbytai 'unwaith y dydd'

  • Cyhoeddwyd
Caught on cameraFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro

Cafodd yr heddlu eu galw i ddelio gyda chamdriniaeth mewn ysbytai Cymru o leiaf unwaith y dydd ar gyfartaledd y llynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Daw wrth i ffigyrau ddangos bod 7,918 o achosion o gamdriniaeth gorfforol neu eiriol yn erbyn staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 2017/18.

Dywedodd cyn-nyrs wnaeth ddioddef ymosodiad nad yw galw'r heddlu'n benderfyniad hawdd, ond weithiau mae'n rhaid gwneud i ddelio gydag achosion o'r fath.

Bellach mae Aelod Seneddol wedi galw am ddyblu uchafswm y ddedfryd am ymosodiadau ar staff y gwasanaethau brys.

Achosion o gamdriniaeth

Mae data gan saith bwrdd iechyd Cymru, Ymddiriedolaeth Felindre a'r Gwasanaeth Ambiwlans yn dangos bod:

  • 7,918 achos o gamdriniaeth wedi eu cofnodi yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018.

  • Mae hynny'n awgrymu bod dros 20 achos y dydd ar gyfartaledd.

  • Fe wnaeth pump o'r cyrff ddarparu gwybodaeth am alwadau i'r heddlu wedi camdriniaeth.

  • Roedd hynny'n dangos bod swyddogion wedi eu galw i 521 o achosion, o leiaf un y dydd ar gyfartaledd.

  • Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r heddlu wedi eu galw i 2,719 o achosion o gamdriniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Rhondda, Chris Bryant, wedi cyflwyno mesur fyddai'n dyblu uchafswm y ddedfryd am ymosod ar staff y gwasanaethau brys.

Fe wnaeth Jane Carroll ddioddef ymosodiad gan ŵr claf wrth weithio fel nyrs yng Nghasnewydd.

"Roedd o'n fy amgylchynu ac yn gweiddi arna' i ac wrth i mi agor y drws daeth dwy law yn galed iawn ar fy nghefn.

"Wnes i ddisgyn a chymryd y croen oddi ar fy ngliniau. Wnes i eistedd yn fy nghar a chrio am 'chydig..."

Cafwyd y dyn yn euog o ymosod, ond dywedodd Ms Carroll iddi gael trafferth cerdded heibio'r stryd lle digwyddodd yr ymosodiad am flynyddoedd wedyn.

"Pan 'dy chi'n mynd i mewn i'ch shifft dydych chi ddim yn disgwyl gorfod delio a'r heddlu.

"Dydy hi ddim yn briodol i gael yr amhariad yna, ond i wneud yr hyn sy'n rhaid ei wneud, weithiau mae'n rhaid galw arnyn nhw [yr heddlu]."

'Rhaid deall y canlyniadau'

Mae AS Rhondda, Chris Bryant, wedi cyflwyno mesur fyddai'n dyblu uchafswm y ddedfryd am ymosod ar staff y gwasanaethau brys.

Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi'r mesur, ac mae disgwyl i Dy'r Arglwyddi ei phasio ddydd Gwener.

Dywedodd Ms Carroll ei bod yn bwysig bod y cyhoedd yn deall canlyniadau ymosod ar staff iechyd.

"Dwi'n meddwl ei fod yn drist bod angen mesur gan Chris Bryant i fynd i'r afael â'r ymddygiad yma.

"Mae hefyd angen deall effaith hyn ar y berthynas rhwng gweithwyr iechyd a'r claf. Mae'n wael."