Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymddiswyddo yn dilyn sgandal am werthu pren.
Roedd Diane McCrea dan bwysau i adael ei swydd wedi i archwilwyr godi pryderon ynglŷn â chyfrifon CNC am y drydedd flynedd yn olynol.
Daw'r ymddiswyddiad wedi i CNC fethu cynnig gwerthu pren oedd wedi'i dyfu ar dir cyhoeddus ar y farchnad agored.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths ei bod yn bwriadu anfon aelod blaenllaw o staff Llywodraeth Cymru at CNC i wireddu prosesau rheoli da.
Angen 'arweiniad cryf'
Roedd galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd wedi i ACau glywed nad oedd CNC wedi ymdrechu i werthu'r pren ar y farchnad agored cyn arwyddo cytundebau busnes gyda thri chwmni.
Cafodd Ms McCrea ei beirniadu gan Lee Waters AC a ddywedodd bod CNC "allan o reolaeth".
Mewn adroddiadau damniol dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas bod rhai o gytundebau'r CNC a'r cwmnïau dan sylw yn anghyfreithlon ac nad oedd CNC wedi ymdrechu i sicrhau bod y pren wedi ei brisio yn ôl cyfraddau'r farchnad.
Dyma'r ail waith i CNC wneud camgymeriad tebyg yn cynnwys un o'r cwmnïau dan sylw, sef BSW Timber.
Llynedd, cafodd CNC eu beirniadu am werthu gwerth £72m o bren i gwmni BSW Timber heb dendr a bu'n rhaid i CNC ymateb yn gyflym wedi i'r cwmni fethu adeiladu melin lifio.
Yn ôl yr archwilydd cyffredinol: "Yn eu brys, ni ddilynodd y CNC y prosesau angenrheidiol ac fe esgeulusodd y cwmni egwyddorion rheoli da."
Dywedodd Ms Griffiths fod angen newidiadau angenrheidiol i fagu "arweiniad cryf" yn CNC.
"Byddaf yn penodi Cadeirydd dros dro ar Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru tra byddaf yn cynnal proses i benodi Cadeirydd newydd.
"Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynnal proses a gynlluniwyd i benodi pum aelod newydd i'r Bwrdd.
"Gyda'i gilydd, bydd y Cadeirydd ac Aelodau'r Bwrdd yn rhan o dîm newydd a fydd yn arwain ac yn symud y sefydliad yn ei flaen, gan roi pwyslais ar sicrhau llywodraethiant da wrth gyflawni amcanion y sefydliad o ran rheoleiddio a'r amgylchedd," meddai.
'Tristwch'
Dywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Clare Pillman: "Gyda thristwch fe glywsom am benderfyniad Diane i ymddiswyddo fel cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru
"Dwi'n gwybod nad ydyw wedi bod yn benderfyniad hawdd iddi, ond rwy'n gwybod ei bod hi'n ystyried beth sydd orau i CNC a'r staff.
"Mae arweinyddiaeth Diane yn nodweddiadol o'i hegni a'i angerdd am yr hyn rydym yn ei wneud i'r amgylchedd yma yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2017