Gosod trefniadau diogelwch newydd i'r Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae trefniadau diogelwch newydd yn eu lle ar gyfer y Sioe Frenhinol eleni, yn dilyn marwolaeth dyn 19 oed y llynedd.
Cafodd corff James Corfield ei ddarganfod yn yr Afon Gwy ar ôl iddo ddiflannu ar ôl noson allan yn Llanelwedd.
Yn dilyn marwolaeth Mr Corfield cafodd grŵp diogelwch ei sefydlu, gyda'r bwriad o wella diogelwch yn yr ardal adeg y sioe.
Dywedodd Steve Hughson, prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, fod angen gwneud yn siŵr bod pawb sy'n gysylltiedig â'r sioe yn ddiogel.
Mae'r grŵp yn cynnwys Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cyngor Sir Powys, yr heddlu, mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac eraill.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maen nhw wedi bod yn edrych i weld pa newidiadau fyddai'n gwneud yr ardal o gwmpas Llanelwedd yn fwy diogel.
Mae yna 'Lwybr Gwyrdd' wedi ei osod yn y dref er mwyn dangos llwybrau cerdded diogel.
Bydd arwyddion yn mynd o dref Llanfair-ym-Muallt i faes y Sioe Fawr, Fferm a Maes Gwersylla Penmaenau, a Phentref Pobl Ifanc CFfI.
Angen sicrhau diogelwch
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi talu am ffens ddiogelwch sydd wedi ei chodi rhwng maes parcio'r Gro ar waelod y dref a'r Afon Gwy.
Dywedodd Mr Hughson fod yna "fwy i'r sioe 'na jyst beth sy'n digwydd tu fewn i ffens y sioe".
"Ma' lot o stwff yn digwydd yn y dre, ym Mhenmaenau, yn y Pentref Ieuenctid, ac hefyd yn y gymuned leol. Felly mae'n rhaid i ni 'neud yn siŵr bod pawb sy'n gysylltiedig gyda'r sioe, ac sy'n mynd i Lanfair-ym-Muallt yn ystod y sioe yn ddiogel."
Ynghyd â'r Llwybr Gwyrdd a'r ffens fe fydd bugeiliaid stryd yn gweithio yn y dref o nos Sul tan nos Fercher, a bydd yr hen ganolfan groeso'n cael ei defnyddio fel corlan les yn y nos.
Fe fydd 'na bresenoldeb amlwg gan Heddlu Dyfed-Powys yn ystod yr wythnos, gyda'r Arolygydd Gwyndaf Bowen yn dweud y bydd tua 70 o swyddogion yn gweithio yn Llanfair-ym-Muallt gyda'r hwyr.
Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn rhoi mwy o adnoddau ar waith yn ystod cyfnod y Sioe, gan gynnwys cerbyd ymateb brys 4x4 a system Teledu Cylch Cyfyng.
'Hen bryd' am newid
Yn ôl un o aelodau mudiad y Ffermwyr Ifanc, Carwyn James o Glwb Ffermwyr Ifanc Hermon, mae'n hen bryd cyflwyno'r newidiadau.
"Yn amlwg mae'r newidiadau wedi dod yn lot rhy hwyr, o ystyried James Corfield, bu farw e llynedd, ac ma' sawl un dros y blynydde, a'u teuluoedd nhw wedi cael eu heffeithio gan y diffyg diogelwch," meddai.
Dywedodd Elin Williams, Swyddog Gweithrediadau CFfI Cymru bod y mudiad wedi "chwarae rôl flaenllaw" yn y trafodaethau, a'u bod nhw'n "teimlo'n gryf" bod y newidiadau'n bwysig i gadw aelodau'n ddiogel.
Y cynghorydd Jeremy Pugh yw'r cynghorydd sir lleol, ac fe ddywedodd ei fod yn hapus gyda'r gwaith sydd wedi ei wneud eleni.
"O ystyried yr amserlen oedd o'n blaen ni, a'r cyfyngiadau ariannol, dwi'n hapus ein bod ni wedi gwneud yr hyn ry'n ni'n gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a gwahaniaeth gweledol," meddai.
Bydd y grŵp diogelwch yn parhau i adolygu'r trefniadau diogelwch a lles ac yn argymell gwelliannau lle bo angen ar gyfer digwyddiadau'r dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018