Bebb: 'Gobaith am gytundeb heb refferendwm na etholiad'

  • Cyhoeddwyd
Guto Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Guto Bebb ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn nos Lun ar ôl pleidleisio gyda'r gwrthbleidiau ar gymal o fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Bron i wythnos ar ôl ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn, mae AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb wedi dweud nad yw'n difaru ymddiswyddo, wrth iddo obeithio am "gytundeb Brexit lle nad oes angen etholiad na refferendwm arall".

Fe wnaeth Mr Bebb ymddiswyddo o'i swydd fel gweinidog amddiffyn nos Lun ar ôl pleidleisio gyda'r gwrthbleidiau ar gymal o fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Mr Bebb wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant gafodd ei gynnig gan aelodau sydd o blaid Brexit caled.

Dywedodd ar raglen Dewi Llwyd fore Sul ar BBC Radio Cymru nad oedd yn difaru ymddiswyddo "gan fy mod yn credu fy mod wedi gwneud y peth iawn dan yr amgylchiadau".

'Plaid ranedig'

"Does 'na ddim gwadu," meddai, "fod y swydd yn y weinyddiaeth amddiffyn wedi troi allan yn swydd roeddwn i yn ei mwynhau yn fawr.

"Dwi'n sicr yn siomedig fy mod wedi ffeindio fy hun mewn sefyllfa lle nad oeddwn i'n gallu cefnogi penderfyniad y llywodraeth nos Lun i dderbyn gwelliannau - [gwelliannau] oedd yn fy marn i yn niweidio safbwynt y llywodraeth ac yn tanseilio gallu'r Prif Weinidog i drafod gyda'n partneriaid ni yn Ewrop."

Roedd y gwelliant yn cyfeirio'n benodol at yr Undeb Tollau, lle byddai'r llywodraeth yn rhoi'r gorau i gasglu tariff ar ran yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, oni bai fod yna drefniant arall mewn lle.

Fe enillodd y llywodraeth y gwelliant gyda mwyafrif o dair pleidlais yn unig, mewn dadl hwyr yn San Steffan nos Lun.

Disgrifiad,

Roedd Guto Bebb AS yn siarad ar raglen Dewi Llwyd fore Sul

"Dwi wedi dweud yn gyson na fyddwn i'n cefnogi sefyllfa lle fyddwn ni'n gadael yr UE heb gytundeb a doedd gen i ddim amheuaeth fod y gwelliannau yma oedd wedi cael eu derbyn gan y llywodraeth yn agor y drws yn bur agored i sefyllfa ble byddwn ni'n gadael yr Undeb heb gytundeb.

"Felly mi o ni'n teimlo ei bod hi'n allweddol fy mod i'n gwneud safiad.

"Mae sefyllfa'r blaid Geidwadol yn seneddol ac yn fwy cyffredinol yn gwbl rhanedig.

'Etholiad'

"O ran y dyfodol, dywedodd Mr Bebb ei fod yn credu mai trafodaethau mewnol yw'r ffordd ymlaen ar hyn o bryd yn hytrach na chynnal refferendwm arall.

"Dwi ddim yn siŵr ar y funud be fysan ni'n ofyn i'r cyhoedd (o ran refferendwm) felly'r cwestiwn sylfaenol i mi yw ceisio sicrhau ein bod ni'n cael cytundeb.

"O gael cytundeb, os di hwnnw wedyn yn methu cael cefnogaeth o fewn y Tŷ'r Cyffredin, yna mae 'na gwestiwn sylfaenol yn codi wedyn o sut rydan ni'n symud ymlaen, ac un peth dwi wedi dweud yw 'nai byth dderbyn na phleidleisio dros adael heb gytundeb."

Ffynhonnell y llun, Ty'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd y llywodraeth y gwelliant gyda mwyafrif o dair pleidlais yn unig mewn dadl hwyr yn San Steffan nos Lun.

Ychwanegodd Mr Bebb: "Felly tydi cwestiwn am refferendwm arall ddim yn codi yn fy marn i hyd 'dan ni wedi cyrraedd sefyllfa ble mae Tŷ'r Cyffredin yn dangos bod nhw ddim yn gallu rhoi cefnogaeth i unrhyw gytundeb o'r fath yn y byd."

Yn dilyn ymddiswyddiad Mr Bebb, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ei fod yn "flin iawn" bod Mr Bebb wedi gadael ei swydd gan ei fod yn "ffrind agos" ac yn "weinidog arbennig o effeithiol".

Dywedodd bod y gwelliannau gafodd eu derbyn nos Lun yn "gwbl gytûn a chytundeb Chequers" ac felly y byddai'n "rhaid gofyn i Guto am ei resymau" dros adael.

'Shambls'

Gwrthododd hefyd bod "shambls" yn San Steffan, gan ddweud bod "rhaid canolbwyntio ar beth sy'n digwydd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd".

Yn ôl Mr Bebb mae'n credu ei bod hi'n anodd iawn rhagweld beth fydd yn digwydd oni bai fod 'na gytundeb sy'n cael cefnogaeth y Tŷ'r Cyffredin, ac mae'n ansicr ynglŷn â'r posibilrwydd o Etholiad Cyffredinol arall.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ei fod yn "flin iawn" bod Guto Bebb wedi gadael ei swydd gan ei fod yn "ffrind agos" ac yn "weinidog arbennig o effeithiol".

"Dwi ddim yn dweud yn bendant fydd na etholiad," meddai Mr Bebb.

"Mi fydd angen trafod efo'r cyhoedd maes o law os nad oes cytundeb, ac mae hynny'n golygu bydd un ai angen penderfyniad ynghylch trafod efo'r cyhoedd os ydyn nhw'n hapus efo gadael heb gytundeb. Felly bryd hynny mae'r cwestiwn am refferendwm arall, neu wrth gwrs mae 'na bosib am etholiad.

"Mi fysa unrhyw arweinydd ceidwadol fysan awgrymu i ni gael etholiad ar y funud yn bur annhebygol o gael cefnogaeth aelodau llawr gwlad, oherwydd 'dan ni'n credu y bysa hi'n eithaf amlwg be fysa'n digwydd dan amgylchiadau o'r fath.

"Dwi'n meddwl fod y syniad o gael etholiad cyffredinol yn llawer iawn anoddach i'w gyrraedd na mae pobl yn ei gredu.

"Felly dan yr amgylchiadau hynny dwi'n gobeithio cael cytundeb lle nad oes angen etholiad na refferendwm. Os na chawn ni gytundeb, dwi ddim yn gwybod lle fyddwn ni," meddai.

Mae modd gwrando ar y cyfweliad rhwng Dewi Llwyd a Guto Bebb AS yn llawn yma.