Achub wyth wedi tân mewn tŷ yn Uplands, Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i Ffordd Brynmor fore LlunFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i Ffordd Brynmor fore Llun

Mae diffoddwyr wedi achub wyth o bobl o'u cartref yn dilyn tân yn Abertawe.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod chwech o griwiau wedi eu hanfon i ardal Uplands am 06:50 fore Llun.

Bu Heol Walter, sy'n arwain i Heol San Helen, ynghau wedi'r digwyddiad.

Dywed Heddlu De Cymru fod wyth o bobl wedi dianc, gyda phedwar wedi eu hanfon i'r ysbyty, ac eraill wedi eu trin gan barafeddygon.