Cwmni dymchwel adeiladau Cuddy yn y fantol 'ers wythnosau'

  • Cyhoeddwyd
Tractor CuddyFfynhonnell y llun, Cuddy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd iechyd bregus Mike Cuddy yn rhan o ddirywiad y cwmni

Roedd gweithwyr Cuddy Group yn ymwybodol o broblemau o fewn y cwmni "ers wythnosau".

Mae'r busnes dymchwel adeiladau ar fin mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gyda'r rheolwr-gyfarwyddwr, Mike Cuddy, yn dweud fod trafferthion ariannol y cwmni yn sgil ei iechyd bregus yntau ac anallu unrhyw un i "gamu i'r adwy" yn ei absenoldeb.

Mae oddeutu 130 o'r gweithwyr wedi cael cynnig gwaith gyda chwmni arall.

Dywedodd Mr Cuddy ei fod yn parhau i fod wedi ymrwymo i'w berchnogaeth o Glwb Rygbi Castell-nedd.

Yn ôl datganiad gan Glwb Rygbi Castell-nedd, mae Mr Cuddy yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r clwb ac mae'r berthynas sydd ganddo gyda'r clwb yn "fwy na pherthynas ariannol yn unig".

Medd y datganiad: "Er bod Cuddy Group yn un o brif noddwyr y clwb ac wedi cynnig cefnogaeth ychwanegol, fel sicrhau bod y pitsh a'r tir yn cael eu cynnal a'u cadw, mae'r fusnes yn eiddo ac wedi ei ariannu gan Mike Cuddy a'i deulu."

Yn ôl Mr Cuddy ei hun, mae'n ymwybodol nad yw wedi gallu chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y clwb dros y deunaw mis diwethaf, ond ei fod yn parhau wedi "ymrwymo" i'r clwb.

Gweithwyr Cuddy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweithwyr Cuddy wybod ddydd Llun am drafferthion ariannol y cwmni

Collodd Cuddy Group 25% o'i incwm mewn blwyddyn, yn ôl y cyfrifon diweddaraf.

Fodd bynnag, wrth i rannau o'r fusnes yn dangos elw sylweddol, roedd rhannau eraill yn dangos colledion mawr.

Ym mis Hydref 2016, roedd Mr Cuddy, 54 oed, wedi ei daro'n wael gan niwrosarcoidosis, gan dreulio cyfnod o chwe mis yn yr ysbyty a deunaw mis adref yn gwella.

Yn ôl Cuddy Group, roedd yr heriau a oedd yn eu hwynebu yn "cynyddu fis wrth fis yn ystod 2017 hyd at ddechrau 2018".

Swyddi newydd

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes, Martin Smith, wedi cynnig swyddi i weithwyr Cuddy.

Yn ôl Mr Smith, mae'r cwmni wedi adeiladu 1,500 o dai yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Ne Cymru ac angen ychwanegu at ei weithlu o 400.

"Dwi wedi trafod gyda Cuddy - mae'n ymddangos bod nifer wedi dod o hyd i waith a bod nifer o'r gweithwyr wedi amau bod Cuddy am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ers wythnosau ac felly wedi gwneud ymdrech i chwilio am waith."

Mae Mr Smith yn awyddus i gyfarfod unigolion o gwmni Cuddy sydd wedi colli eu gwaith er mwyn trafod eu cyflogi gyda Persimmon Homes.