Yr Urdd yn creu cronfa wyliau i blant difreintiedig

  • Cyhoeddwyd
glan-llyn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig fynd ar wyliau i wersylloedd Glan-llyn, Llangrannog neu Gaerdydd

Mae'r Urdd yn lansio cronfa newydd er mwyn noddi plant a phobl ifanc difreintiedig i fynychu eu gwersylloedd yn ystod haf 2019.

Mae'r Urdd yn chwilio am noddwyr i gyfrannu at 'Cyfle i Bawb - Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd', a fydd yn noddi plant o deuluoedd difreintiedig i fynychu gwersylloedd Glan-llyn, Llangrannog neu Gaerdydd.

Yn ôl y prif weithredwr, mae'r mudiad wedi bod yn "chwilio am ddulliau arloesol" i sicrhau bod modd i bob plentyn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy'r Urdd.

Bydd modd i bobl gofrestru i fod yn noddwyr yn dilyn lansiad swyddogol y gronfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni.

Mae'r Urdd yn awyddus - gydag ystadegau diweddar yn dangos bod 29% o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru - i gynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc fanteisio ar wyliau yn un o'u gwersylloedd.

Bydd nawdd o £160 yn galluogi un plentyn i fynychu cwrs pum diwrnod gyda'r Urdd, yng Ngwersyll Llangrannog yng Ngheredigion, Gwersyll Glan-llyn ger y Bala neu Wersyll Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams yn gefnogol iawn o'r gronfa ac yn ystyried gwyliau'n brofiad pwysig iawn i blant a phobl ifanc

Mae'r Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams AC, yn gefnogol iawn o'r cynllun, gan ddweud ei bod yn "falch iawn o weld yr Urdd yn ceisio sicrhau fod plant o gefndir difreintiedig yn gallu cael yr un cyfle a mwynhad" â phawb arall.

Medd Ms Williams: "Yn aml, dyma brofiad cyntaf plentyn o annibyniaeth, o gymryd cyfrifoldeb ac i gwrdd â ffrindiau newydd a chodi hyder.

"Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall profiadau fel hyn gael effaith bositif ar ddyheadau a chyrhaeddiad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, yn dweud bod noddi plentyn yn gyfle i "adael etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol"

Medd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd bod y mudiad wedi bod yn "chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle."

Dywedodd Ms Lewis: "Rydw i'n siŵr bod gan nifer o gefnogwyr a chyn-aelodau'r Urdd atgofion melys am eu hafau yn y Gwersyll felly mae hyn yn gyfle gwych i sicrhau bod plant heddiw yn cael yr un profiadau a thrwy hynny yn gadael etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol."

Bydd modd i bobl gofrestru i fod yn rhoddwr i'r gronfa ar-lein, dros y ffôn neu ym mhabell yr Urdd yn dilyn lansiad swyddogol y gronfa yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni,

Mae cwmni cyfryngau Tinopolis eisoes yn cefnogi'r gronfa fel noddwr corfforaethol.

Bydd y gronfa yna'n agor ar gyfer ceisiadau gan rieni neu ysgolion ar ran plentyn yn 2019.