Torri'r dywarchen gyntaf uned newydd purfa olew

  • Cyhoeddwyd
ValeroFfynhonnell y llun, Nick MacNeil

Mae seremoni wedi ei chynnal ym mhurfa olew Penfro i nodi dechrau gwaith adeiladu uned cynhyrchu gwres a phwer gwerth £127m.

Bydd uned newydd cwmni Valero yn cynhyrchu 45 megawat (MW) o drydan a stêm chwilboeth o gynhyrchydd wedi'i bweru gan nwy naturiol, ac yn cyflenwi'r burfa ei hun yn rhatach ac yn fwy effeithiol.

Dyma'r prosiect cyntaf i gael caniatâd cynllunio fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Dywedodd y prif weinidog, Carwyn Jones, oedd ymhlith y gwesteion wrth i'r dywarchen gyntaf gael ei thorri, fod y datblygiad "yn hwb pwysig i economi de orllewin Cymru a fydd yn caniatáu i'r cwmni dyfu a chystadlu'n llywddiannus mewn marchnad fyd-eang wrth i ni wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd".

"Gyda'r diwydiant yn wynebu heriau niferus, mae'r cwmni'n parhau i fuddsoddi sy'n deyrnged i'r gweithlu - ac i'r gweithlu yn Sir Benfro," ychwanegodd.

Mae'r safle o fewn ffiniau Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Dywedodd is-lywydd a rheolwr cyffredinol Valero, Ed Tomp fod y seremoni'n "garreg filltir bwysig arall i'r prosiect" ac yn "brawf o ymroddiad y cwmni i economi Cymru".