Trafodaethau brys yn y Sioe am effaith y tywydd poeth

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod

Mae trafodaethau brys wedi eu cynnal yn y Sioe Frenhinol wrth i ffermwyr barhau i gael trafferth yn y tywydd poeth.

Y gred yw bod nifer o ffermwyr yn ei chael hi'n anodd bwydo anifeiliaid a dyfrio cnydau oherwydd y gwres.

Ddydd Mercher yn Llanelwedd bu Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o'r byd amaeth yn dilyn galwadau gan yr undebau.

Dywedodd Alan Davies, rheolwr gyfarwyddwr Undeb Amaethwyr Cymru fod y cyfarfod wedi bod yn "gam positif" a bod y trafodaethau wedi bod yn rhai "gonest ac yn blwmp ac yn blaen".

Ychwaengodd fod cynllun ar droed i roi cymorth i ffermwyr.

Ond mynnodd bod yn rhaid cael newidiadau erbyn dechrau'r wythnos nesaf, gan fod ffermwyr eisoes wedi dechrau defnyddio rhan o'r bwyd anifeiliaid sydd i fod ar gyfer stoc y gaeaf.

Dywedodd cyfarwyddwr NFU Cymru, John Mercer, bod y cyfnod sych wedi "achosi problemau enfawr i gymunedau ffermio dros Gymru a dros bob sector".

"O ganlyniad rydyn wedi galw am drafodaeth i geisio dod o hyd i ddatrysiad yn ystod y cyfnod pryderus yma."

Cost bwyd yn cynyddu

Daw'r cyfnod sych wedi gaeaf oer ac anodd i amaethwyr, yn ogystal â chostau sy'n cynyddu.

Yn ôl ffigyrau gan Gymdeithas Gwerthwyr Gwair a Gwellt Prydain, mae cynnydd amlwg wedi bod yng ngwerth gwair a gwellt.

Ym mis Mai 2017 cost belen o wair oedd £52 y dunnell, ond mae'r ffigwr diweddaraf yn £95 y dunnell.

Mae'n ymddangos bod prisiau am rai mathau o wellt hefyd wedi dyblu dros yr un cyfnod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Rees wedi teimlo effaith y gaeaf oer a'r haf poeth

Ar yr un pryd, mae prisiau gwartheg mewn marchnadoedd wedi gostwng yn ddiweddar, o bosib gan fod ffermwyr eisiau llai o anifeiliaid i'w bwydo.

Mae prisiau gwartheg hyn yn aml yn gostwng adeg yma'r flwyddyn, ond mae'r BBC yn deall bod y prisiau wedi gostwng yn is eleni.

Mwy o'r Sioe Frenhinol

Dywedodd Iwan Jones, cyfarwyddwr arwerthiant BJP yng Nghaerfyrddin: "Mae pryder yn parhau am brinder gair a bwyd."

Ond os daw glaw yn fuan, dywedodd y gallai pris anifeiliaid gynyddu eto.

Nid yn unig ffermwyr anifeiliaid sy'n cael trafferth, gyda'r rhai sy'n tyfu cnydau hefyd yn cael trafferthion.

Roedd Gary Rees yn tyfu cennin pedr ar ei fferm ger Hwlffordd yn gynharach eleni, ond oherwydd y tywydd oer ni wnaeth llawer dyfu'n ddigonol i'w gwerthu.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod y mefus mae'n eu tyfu wedi dod i ben yn gynnar oherwydd y gwres, tra bod y pwmpenni angen "glaw difrifol" i dyfu'n iawn.