Masnach di-doll yn 'debygol', medd Michael Gove

  • Cyhoeddwyd
Michael Gove gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Michael Gove gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth

Mae mynediad di-doll i farchnadoedd bwyd Ewrop yn "hynod debygol" wedi Brexit, yn ôl Ysgrifennydd Amgylchedd y DU, Michael Gove.

Wrth ymweld â maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd wrth BBC Cymru: "Rwy'n credu gan fod dod i gytundeb o fudd i bawb, dyna fydd y canlyniad."

Ychwanegodd Mr Gove fod yr UE wedi bod yn adeiladol, a bod arweinydd y trafodaethau ar ran aelodau'r UE, Michel Barnier ddim eisiau rhwystrau masnachu, cwotâu na thollau "sy'n newyddion da i ffermwyr Cymru".

Ond dywedodd fod y DU yn dal i baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosib, gan gynnwys gadael yr UE heb ddod i gytundeb - sydd, meddai, yn gam pwyllog.

"Fe gawn ni gytundeb ac rwy'n hyderus y bydd bwyd ac amaeth nid dim ond yng Nghymru ond ar draws y DU yn elwa o sefyllfa ble fydden ni'n sicrhau mynediad di-doll i farchnadoedd Ewrop ac y tu hwnt i fiwrocratiaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin."

'Dyfodol disglair'

Ar ddiwrnod cyntaf y sioe, roedd rhybuddion gan gadeirydd Hybu Cig Cymru, Kevin Roberts ac Ysgrifennydd Amgylchedd Cymru, Lesley Griffiths y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn creu anhrefn.

Ond wrth siarad yn Llanelwedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gove y byddai ffermwyr Cymru a'r DU yn cael "popeth y maen nhw ei angen" wedi Brexit a "sicrhad diamod" y byddai'r arian i'r byd amaeth yn cael ei warchod tan 2022.

"Mae hwnnw'n fwy o sicrwydd o gyllid ar gyfer ffermwyr ar draws y DU nag y gallai unrhyw wlad arall yn Ewrop ei roi i'w ffermwyr," meddai.

Dywedodd na fyddai'r cyllid yn cael ei roi dan fformiwla Barnett - y dull o ddosbarthu arian o goffrau Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru.

Y neges i ffermwyr, meddai, yw "rydym yn eich cefnogi'n llwyr" a bod y dyfodol yn "ddisglair".

Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU "wedi bod yn fwy eglur na gwledydd Ewropeaidd eraill" ynghylch lefel cyllido yn y dyfodol, natur y trefniadau masnach a buddiannau amgylcheddol maen nhw'n eu dymuno a sut fydd arian yn cael ei wario "fel bod ffermwyr yn cael y sicrwydd angenrheidiol i fod yn fwy cynhyrchiol".