Cyhuddo chwaraewr rygbi Samoa o ymosod ar Gymro

  • Cyhoeddwyd
tim saith bob ochr CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae chwaraewr rygbi o Samoa wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn dilyn ffrwgwd ble cafodd tri o chwaraewyr Cymru eu hanafu.

Digwyddodd y ffrwgwd yn y twnnel yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Samoa ar 22 Gorffennaf yng Nghwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd yn yr UDA.

Cadarnhaodd heddlu San Francisco fod Gordon Langkilde wedi ei arestio a'i gyhuddo o "ymosodiad difrifol a churo gan achosi anaf corfforol difrifol".

Cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru fod un o'u chwaraewyr, Tom Williams, wedi torri esgyrn yn ei wyneb yn y digwyddiad.

Gwahardd

Cafodd Mr Langkilde yn cael ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos gerbron llys ddydd Mercher.

Cadarnhaodd adroddiad yr heddlu bod tri o chwaraewyr Cymru wedi eu hanafu, ond mae Mr Langkilde wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddau.

"Fe wnaeth dyn 26 oed [o Gymru] ddioddef anafiadau i'w wyneb ac mae dyn 21 oed [o Gymru] wedi torri esgyrn yn ei wyneb," meddai datganiad yr heddlu.

"Cafodd trydydd dioddefwr, dyn 24 oed [hefyd o Gymru] anafiadau i'w wyneb yn y digwyddiad."

Dywedodd URC nad oedd unrhyw chwaraewyr o Gymru yn wynebu cosbau am y digwyddiad.

Ychwanegodd y corff rheoli, World Rugby, fod y chwaraewr o Samoa wedi ei wahardd o'r gystadleuaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau, ac nad oedd ymddygiad honedig yn "cyd-fynd â gwerthoedd y gamp".

Gorffennodd Cymru yn 11eg yn y gystadleuaeth yn y diwedd, gan drechu Canada 35-12 yn eu gêm olaf.