Achos twyll AS: Cydweithiwr wedi 'cwyno am sylwadau'

  • Cyhoeddwyd
Jenny Lee ClarkeFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jenny Lee Clarke gwyno am Caroline Harris i'r AS ar y pryd, Sian James

Mae llys wedi clywed fod dynes sydd wedi'i chyhuddo o dwyll wedi gwneud cwyn yn erbyn Aelod Seneddol Llafur pan oedd y ddwy yn gweithio i gyn-AS yr etholaeth.

Mae Jenny Lee Clarke wedi ei chyhuddo o ffugio llofnod er mwyn cynyddu ei chyflog pan oedd hi'n rheolwr swyddfa i Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe ers 2015.

Roedd Ms Clarke a Ms Harris yn arfer gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn swyddfa cyn-AS yr etholaeth, Sian James.

Mae Ms Clarke yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn ac mae'r achos yn parhau.

'Dim camau ffurfiol'

Dywedodd Ms James ei bod wedi cymryd cwynion Ms Clarke am sylwadau Ms Harris o ddifrif.

Roedd Ms Clarke wedi honni bod Ms Harris wedi defnyddio'r gair "dyke", sydd yn cael ei ystyried yn sarhad tuag at lesbiaid.

Wrth gael ei holi yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd Ms James ei bod wedi derbyn cwyn yn 2013 a'i bod wedi ystyried camau pellach petai wedi digwydd eto.

"Roedden nhw'n ymwneud â'i rhywioldeb. Yn benodol roedd e'n ymwneud â sylwadau gafodd eu gwneud yn y swyddfa," meddai Ms James.

"Roedd y math o sylwadau gafodd eu cyflwyno i mi gan Jenny, pethau oedd wedi ei hypsetio hi, yn rhai am ei dillad, ei dewis o esgidiau.

"Yn gyffredinol roedd hi'n teimlo ei fod wedi mynd y tu hwnt i gellwair a'u bod yn ei phoenydio."

Dywedodd Ms James ei bod wedi siarad gyda Ms Harris, oedd wedi "synnu" a "phryderu", a'i bod wedi penderfynu delio â'r mater yn "anffurfiol".

Ychwanegodd y byddai wedi "dilyn trywydd mwy ffurfiol, gan gynnwys camau disgyblu" petai'r mater wedi codi eto.

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carolyn Harris, sydd bellach yn AS, yn arfer gweithio gyda Jenny Lee Clarke i'r cyn-AS Sian James

Mae Carolyn Harris, sydd bellach yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru, wedi dweud nad oedd hi'n cofio galw Jenny Lee Clarke yn "dyke" ond mai "cellwair yn y swyddfa" oedd e os oedd hi wedi.

Ychwanegodd yr AS nad oedd hi'n "wrth-hoyw".

Mae Ms Clarke, 42 oed o Abertawe, wedi ei chyhuddo o geisio cynyddu ei chyflog o £37,000 i £39,000 a gostwng ei horiau gwaith ar ôl ffugio llofnod Ms Harris ar ffurflen.

Ond mae hi wedi mynnu fod Ms Harris wedi awdurdodi hynny, gan ddisgrifio Ms Clarke fel "angel y swyddfa".

Ychwanegodd fodd bynnag ei bod hi a Ms Harris wedi ffraeo sawl gwaith, ac y gallai "ysgrifennu llyfr am yr aflonyddu, y bwlio... a'r sylwadau homoffobig".

Mae Jenny Lee Clarke yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn ac mae'r achos yn parhau.