Carcharu dyn am dair blynedd am droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Llys

Mae dyn oedd yn esgus bod yn blentyn ar-lein er mwyn cyfnewid lluniau anweddus gyda phlant wedi ei garcharu am dair blynedd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Kevin Hopson, 42 o Gaergybi, Ynys Môn yn defnyddio safleoedd sgwrsio ar y we mewn ymgais i berswadio plant i ymgymryd â gweithgaredd rhywiol.

Yn ôl yr erlynydd, Simon Roger, roedd Hopson wedi creu dau broffil ffug - un yn fachgen 16 oed, a'r llall yn ferch 12 oed - er mwyn camarwain eraill.

Dywedodd y barnwr Huw Rees fod ymddygiad Hopson yn "gyfrwys" ac yn "dwyllodrus", ac yn nodi nad oedd gan ei chwant rhywiol "afiach" unrhyw ffiniau.

Plediodd yn euog i fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant, eu rhannu, ceisio perswadio plentyn i ymgymryd mewn gweithgaredd rhywiol ac annog plentyn i wylio delweddau rhywiol.

Deunydd o'r categori 'gwaethaf'

Cafodd tŷ Mr Hopson, nad oedd ag unrhyw euogfarnau blaenorol, ei archwilio gan yr heddlu mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd ei ffon a'i gyfrifiadur ei gymryd ac roedd peth o'r pornograffi plant a gafodd ei ganfod yn y categori gwaethaf.

Dechreuodd Hopson sawl grŵp ar y safleoedd sgwrsio, cyn ffurfio rheolau i sicrhau fod yr aelodau yn blant.

Bydd ei enw yn cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw, ac fe fydd yn destun gorchymyn atal niwed rhyw.