Heddlu'n ymchwilio ar ôl darganfod corff yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Anthony Eden DriveFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod corff dyn wedi ei ddarganfod yn Wrecsam.

Cafodd corff y dyn 26 oed ei ddarganfod tua 07:00 fore Sul, yn ardal Anthony Eden Drive.

Roedd y dyn yn dod o'r ardal ac mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy.

Mae'r teulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-Arolygydd Dan Tipton fod yr heddlu yn cydymdeimlo gyda'r teulu.

Ychwanegodd: "Mae amgylchiadau'r digwyddiad yn cael eu hymchwilio gyda chefnogaeth swyddogion lleol".