Ceidwadwyr: Cefnogi ymgeisydd gwahanol i'r un a enwebwyd

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies and David MeldingFfynhonnell y llun, Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Melding (dde) yn dweud mai Paul Davies (chwith) yw'r ymgeisydd gorau i ddod â'r Ceidwadwyr at ei gilydd

Mae AC Ceidwadol a enwebodd Suzy Davies ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad yn cefnogi ei gwrthwynebydd Paul Davies ar gyfer y swydd.

Yn ôl David Melding, Paul Davies yw'r ymgeisydd gorau i ddod â'r blaid at ei gilydd.

Mae ras am yr arweinyddiaeth yn cael ei chynnal wedi ymddiswyddiad Andrew RT Davies.

Dywedodd Suzy Davies ei bod hi wastad yn gwybod bod Mr Melding yn cefnogi Paul Davies, yr arweinydd dros dro ar hyn o bryd.

Dywed llefarydd ar ran y blaid ei fod yn credu bod Mr Melding wedi enwebu Ms Davies am fod cael ras am yr arweinyddiaeth yn fanteisiol i'r blaid.

Mae Ms Davies wedi cael ei henwebu hefyd gan Janet-Finch Saunders a Mark Isherwood.

Dywedodd Mr Melding, cyn ddirprwy lywydd y Cynulliad: "Paul Davies yw'r ymgeisydd gorau ar hyn o bryd i ddod â'r blaid at ei gilydd ac i sicrhau fod ASau, ACau, cynghorwyr ac ymgyrchwyr yn gweithio gyda'i gilydd i symud pŵer oddi ar Lafur.

"Dwi'n gweld yn Paul Davies brif weinidog Ceidwadol sydd ag angerdd a phrofiad i arwain y wlad.

"Mae gan dîm y Ceidwadwyr Cymreig syniadau gwych ar gyfer newid Cymru, ond dim ond trwy gael y Ceidwadwyr mewn grym y bydd modd i ni drawsnewid ein gwlad - dyna pam mae'n rhaid i ni gael arweinydd profiadol sydd â record o ennill etholiadau."

Dywedodd Suzy Davies: "Roeddwn i wastad yn gwybod hyn a dwi'n hynod ddiolchgar i David am ganiatáu i'n haelodau gael ras am yr arweinyddiaeth."

Mae Paul Davies wedi cael ei enwebu gan bump AC - Angela Burns, Russell George, Nick Ramsay, Mohammad Asghar a Darren Millar.