Tad Geraint Thomas yn methu credu buddugoliaeth ei fab

  • Cyhoeddwyd
geraint thomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Wedi buddugoliaeth hanesyddol Geraint Thomas yn y Tour de France dywed ei dad Howell Thomas nad oedd e'n credu y byddai ei fab yn ennill.

Wrth siarad â gohebydd y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru, funudau cyn selio'r fuddugoliaeth ddydd Sul dywedodd Mr Thomas: "O ni byth yn meddwl byddai fe'n ennill - o ni'n gobeithio byddai fe ar y podium ond ennill - waw!

"O ni'n nerfus iawn ar y dechrau ond do'n i ddim yn relaxed tan y time trial brynhawn Sadwrn.

"Dyma'r tour cyntaf iddo beidio cael damwain.

Disgrifiad,

Tad Geraint, Howell Thomas (yn y canol) a'r teulu wrth eu boddau

"Dwin falch bod tîm Sky eleni wedi rhoi rhyddid i Geraint i reidio ar ben ei hun - mae fe wedi bod yn cefnogi am amser hir."

Wrth siarad am y blynyddoedd cynnar mae Howell Thomas yn dweud ei fod yn falch bod Geraint ddim wedi mynd i seiclo ar y ffordd yn rhy fuan.

"Ro'n i'n awyddus iddo gael profiad helaeth ar y trac yn gyntaf ac wedyn mynd ar yr hewl.

"Do'n i erioed yn disgwyl buddugoliaeth fel hon - ro'n i jyst yn gobeithio y byddai fe'n ffindio tîm da i reido ynddo.

"Ond mae'n brofiad brilliant a chael pawb yma ym Mharis."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yn cael ei goroni yn bencampwr ym Mharis ddydd Sul

Cymro yn ennill am y tro cyntaf

Ddydd Sul fe gadarnhaodd Geraint Thomas ei fuddugoliaeth yn Tour de France 2018.

Gorffennodd Thomas ar frig y dosbarthiad cyffredinol gyda Tom Dumoulin yn ail a Chris Froome yn drydydd.

Dyma'r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth, sydd yn cael ei chydnabod fel ras seiclo fwya'r byd.

Wrth gael ei holi ar ddiwedd y ras dywedodd Geraint Thomas fod y fuddugoliaeth yn "anghredadwy".

"Breuddwyd yw cael gwisgo'r crys melyn," meddai Thomas, a ddechreuodd gystadlu yn y Tour de France yn 2007.

"Roedd pob dydd yn frwydr bryd hynny," meddai, "ond roedd pethau yn tipyn gwahanol tro yma."

Disgrifiad o’r llun,

Clwb beicio Egni yng Nghaernarfon ymhlith y cefnogwyr

Wrth i Geraint Thomas hawlio'i fuddugoliaeth ar y Champs-Elysées roedd ei gefnogwyr nôl adref hefyd yn dilyn pob cam hyd at y podium - yn eu plith criw o glwb beicio Caernarfon.

Trafodaethau i groesawu Geraint yn ôl

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn falch iawn o'r llwyddiant hanesyddol.

Yng nghlwb y Maindy Flyers y dechreuodd Geraint Thomas ar ei yrfa.

Mae cefnogwyr y gamp yn hyderus y daw diddordeb newydd mewn beicio yng Nghymru.

Eisoes mae 'na flwch post aur yng Nghaerdydd i gofnodi llwyddiant Geraint Thomas yng ngemau olympaidd Llundain ac mae ymgyrch wedi dechrau i geisio cael un melyn hefyd yn ei ddinas enedigol.

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y byddan nhw yn trafod yn fuan sut a phryd y byddant yn croesawu'r pencampwr yn ôl i'r brifddinas.