Chwilio am ddyn ar goll yn y môr ger Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
LifeboatFfynhonnell y llun, RNLI

Mae'r chwilio wedi bod yn parhau ddydd Llun am ddyn aeth ar goll yn y môr ger arfordir Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiadau bod y dyn wedi mynd i'r môr ger Neyland brynhawn Sul.

Y gred yw bod y dyn wedi mynd i drafferthion ger marina'r dref, a bod menyw arall wedi ceisio cynnig cymorth iddo.

Llwyddodd y fenyw i ddod allan o'r dŵr yn ddiogel.

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân, gyda chymorth hofrennydd gwylwyr y glannau, wedi bod yn chwilio rhan fawr o'r ardal ers hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) eu bod wedi cael eu galw am gymorth tua 15:45.

Cafodd bad achub o Angle ynghyd â thimau gwylwyr y glannau o Dale, Aberllydan a St Govan yn eu cynorthwyo.

Rhoddwyd y gorau i beth o'r chwilio am oddeutu 19:30 nos Sul, ond fe ailddechreuodd y chwilio fore Llun.