Arestio dyn ar amheuaeth o gynnau tân mewn gwesty

  • Cyhoeddwyd
Tân gwesty Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n dal i fonitro'r safle gyferbyn â'r prom yn Aberystwyth

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i dân mewn gwesty yn Aberystwyth.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw'n parhau i ymchwilio i union amgylchiadau'r tân a ddigwyddodd yng Ngwesty Tŷ Belgrave yn ystod oriau mân fore Mercher.

Brynhawn Llun, fe gyhoeddon nhw eu bod nhw wedi arestio dyn mewn cysylltiad â'r ymchwiliad a'i fod yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn Aberystwyth.

Cafodd 12 o bobl eu hachub o'r adeilad, ond mae un person yn parhau ar goll.

Diogelu tystiolaeth

Dywedodd y ditectif prif arolygydd Neil Jenkins: "Mae un dyn yn parhau ar goll yn dilyn y tân.

"Rydym yn ceisio i ddod o hyd i'w deulu ac mae ein swyddogion yn cysylltu gyda Llysgenhadaeth Lithwania mewn ymdrech i gysylltu â nhw.

"Rydym yn dal i ymchwilio i achos y tân, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiogelu'r adeilad tra hefyd yn ceisio diogelu unrhyw dystiolaeth.

"Rydym yn amcangyfrif na fydd yn bosib mynd i'r adeilad tan ddiwedd yr wythnos hon, fan cynharaf.

"Ar ôl hynny fe fydd yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i benderfynu achos y tân."

Fe wnaeth y tân hefyd achosi difrod sylweddol i adeiladau cyfagos hefyd, gan gynnwys Gwesty'r Belle Vue drws nesaf.

Dywedodd swyddogion eu bod nhw dal yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal, unai ar Ffordd Glan y Môr neu Ffordd y Môr, rhwng 12.00 a 03.00 ddydd Mercher, Gorffennaf 25, neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad.