Y chwilio'n parhau wedi tân mewn gwesty yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Parhau mae'r chwilio am ddyn sydd ar goll ar ôl i dân ddifrodi gwesty ar lan y môr yn Aberystwyth.
Cafodd naw oedolyn a thri phlentyn eu hachub wedi i'r tân gynnau yng ngwesty Tŷ Belgrave, Glan y Môr, yn oriau mân fore Mercher.
Y gred yw bod y dyn sydd ar goll yn aros yn y gwesty, ac mae Heddlu Dyfed-Powys bellach yn ceisio cysylltu gyda'i deulu a pherthnasau agosaf.
Roedd tri chriw o ddiffoddwyr yn dal ar y safle yn hwyr nos Fercher, ond doedden nhw dal heb fedru cael mynediad i'r adeilad ddydd Iau.
Mae gwaith yn cael ei wneud i ddiogelu'r strwythur drwy osod sgaffaldiau.
Fe wnaeth y tân hefyd ymledu i adeiladau cyfagos, ond llwyddodd nifer o'r gwesteion i ddianc o falconïau'r gwesty, gyda'r Groes Goch yn cynnig cymorth i tua 50 o bobl gafodd eu heffeithio.
Cafodd 12 o griwiau eu galw i'r digwyddiad ar y prom
Dechreuodd y tân am tua 02:00 fore Mercher cyn lledu'n gyflym.
Roedd dau o'r plant gafodd eu hachub ymhlith pum person gafodd eu cludo i'r ysbyty gan y gwasanaethau brys, ond does dim manylion eto am eu cyflwr.
'Torcalonnus'
Dywedodd Vince Morgan, perchennog y Belle Vue, y gwesty drws nesaf i Dŷ Belgrave, bod y digwyddiadau yn "dorcalonnus" a bod y Belle Vue hefyd wedi ei ddifrodi'n wael gan ddŵr a mwg.
Yn ogystal, cafodd dau lawr ar un ochr o'r gwesty eu dinistrio'n llwyr.

Yn ôl Mr Morgan, mae'r ddau westy gyda'i gilydd wedi colli rhwng 50-60 o ystafelloedd ac mae staff yn ceisio'u gorau glas i ganfod llety arall i'r gwesteion oedd yn aros yno.
Â'r tymor twristiaid yn ei hanterth, roedd Mr Morgan hefyd yn disgwyl 60 o breswylwyr dros y penwythnos, ac wedi bwriadu croesawu tri bws o ymwelwyr yr wythnos nesaf.
Fodd bynnag, roedd yn canmol gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub wrth drin y tân o dan yr amodau heriol.

Dywedodd Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fod pob llawr mewnol yn y gwesty wedi dymchwel, a bod hynny wedi llesteirio'r gwaith o ddod o hyd i'r person sydd ar goll.
Yn dilyn asesiad pellach o'r adeilad, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi datgan ei bod hi'n rhy beryglus i fynd i mewn i'r gwesty, ac ni fydd neb yn cael mynediad tan o leiaf diwedd yr wythnos nesaf.
Y camau nesaf fydd gosod mwy o sgaffaldiau a rhwydi i gynnal yr adeilad tra bod heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yn parhau i ddiogelu'r safle.
Wedi hynny, mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn bwriadu cynnal ymchwiliad i ganfod beth achosodd y tân.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018