Yr Eisteddfod ar deledu, radio ac ar-lein
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n methu bod yng Nghaerdydddoes dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, y cyngherddau nac awyrgylch y prif faes - oherwydd bydd yna ddarpariaeth estynedig o holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod ar-lein, ac ar y radio a theledu drwy gydol yr ŵyl.
BBC Cymru Fyw
Ar wefan BBC Cymru Fyw bydd modd gwylio fideo byw o'r pafiliwn trwy'r dydd ar bob dyfais, yn cynnwys cyfieithu ar y pryd yn Saesneg. Yn ogystal, fe fydd yr holl ganlyniadau ar gael a fideos o uchafbwyntiau'r cystadlu yn y Pafiliwn, y newyddion diweddaraf o'r Maes ac orielau o luniau dyddiol. Dilynwch bbc.co.uk/cymrufyw neu lawrlwythwch Ap Cymru Fyw.
S4C
Ffion Dafis fydd yn cyflwyno Croeso i'r Eisteddfod am 8pm nos Wener, ac yn agor drysau'r ŵyl am eleni trwy rhoi sylw i'r gyngerdd agoriadol 'Hwn yw Fy Mrawd' gyda Syr Bryn Terfel,
Nia Roberts, Heledd Cynwal, Seren Jones, Steffan Powell a Sean Fletcher fydd yn croesawu gwylwyr i'r rhaglen fyw ddyddiol, Rhaglen y Dydd (Sadwrn 10am; Sul 12pm; Llun-Sadwrn, 10am) ac yn cyflwyno'r cystadlu o'r pafiliwn yn ogystal â rhoi blas o'r amrywiaeth o ddigwyddiadau ac atyniadau eraill ar y maes, gyda Ffion Dafis yn crynhoi Uchafbwyntiau'r Wythnos ar y nos Sul olaf.
Iwan Griffiths fydd yn crynhoi uchafbwyntiau'r dydd yn Mwy o'r Maes (Sadwrn, 8.00pm; Sul, 9.35pm; Llun, 8pm; Mawrth, 8pm; Mercher, 9.30pm; Iau, 8pm; Gwener, 9.30pm & Sadwrn, 8pm)
Gwyliwch yr Eisteddfod yn fyw ac ar alw drwy'r wythnos ar wefan S4C, dolen allanol.
Radio Cymru
Ar BBC Radio Cymru, lleisiau cyfarwydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis fydd yng ngofal y darllediadau oddi ar y prif lwyfan, gyda Siôn Tomos Owen, Ffion Emyr ac Anni Llŷn yn crwydro'r maes a Nia Lloyd Jones yn dod â'r holl fwrlwm o gefn y prif lwyfan.
Bydd trafodaeth ar bynciau llosg y dydd ar Taro'r Post am 1pm gyda Garry Owen.
Bydd uchafbwyntiau'r Babell Lên gyda Catrin Beard am 7.30pm a bydd Tocyn Wythnos yno gyda Beti George yn rhoi blas o'r brifwyl gyfan bob nos am 6.15pm.
Am 9pm nos Fawrth i nos Wener bydd Lisa Gwilym yn dod ag awyrgylch y gigs fin nos yng nghwmni Huw Stephens, Georgia Ruth a Huw Evans, wrth iddyn nhw dywys gwrandawyr drwy rhai o ddigwyddiadau cerddorol yr Eisteddfod.
Radio Wales
Bydd yr Eisteddfod hefyd yn cael sylw yn ystod rhaglenni BBC Radio Wales, gydag Elen Ifan yn dod â blas dyddiol o'r maes, ac Eleri Siôn yn darlledu'n fyw o'r Eisteddfod, brynhawn Gwener, 4 Awst, 1-4pm.