Cymorth i fyfyrwyr ag alcoholiaeth yn undeb Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyriwr wedi son am ei brwydr ag alcoholiaeth, wrth i sesiynau Alcoholics Anonymous wythnosol gael eu sefydlu yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Y sesiynau AA wythnosol ym Mhrifysgol Caerdydd yw un o'r rhai cyntaf drwy'r DU i gael eu cynnal mewn undeb myfyrwyr.
Y nod medd llefarydd ar ran yr undeb, yw "lleihau'r stigma" mae myfyrwyr sydd â phroblem alcohol yn ei deimlo.
15 peint y dydd
Yn ystod ei chyfnod gwaethaf, roedd Marie - nid ei henw iawn - yn yfed 15 peint o seidr y dydd: "Ro'n i'n teimlo na allen i fyw gyda'r peth ddim rhagor, ro'n i jest eisiau iddo ddod i ben.
"Fe gollais fy ffrindiau, ro'n i'n unig, ac ro'n i'n teimlo nad oeddwn i eisiau parhau fel hyn."
Dywedodd Marie ei stori yn un o gyfarfodydd yr AA yn yr undeb yn ddiweddar, ac mae wedi rhannu ei phrofiadau hefyd â BBC Cymru.
"Fe gafodd effaith fawr ar fy ngwaith, doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio mewn cyfarfodydd, roedd fy ymddygiad a fy mhenderfyniadau yn eratig.
"Fe gafodd effaith negyddol ar fy iechyd meddwl, gorbryder ac iselder ofnadwy, a meddyliau am orffen fy mywyd."
Chwilio am gymorth
Cafodd Marie ei harestio, a bu bron iddi gael ei diarddel o'i chwrs, cyn iddi fynd i chwilio am gymorth.
Dywedodd ei bod wedi disgwyl i'r brifysgol ei chosbi, ond yn hytrach na hynny, fe fuon nhw'n "hynod gefnogol".
Dechreuodd ar raglen dan ofal elusen yr Ystafell Fyw yng Nghaedydd, a dydy hi ddim wedi yfed ers dros flwyddyn bellach.
"Mae e wedi gwneud i mi edrych ar yr hyn rwy'n wneud a'r rheswm pam ro'n i'n yfed, a derbyn fy alcoholiaeth," dywedodd.
Y sesiynau AA wythnosol ym Mhrifysgol Caerdydd yw un o'r rhai cyntaf drwy'r DU i gael eu cynnal mewn undeb myfyrwyr.
Gall unrhyw un fynychu'r sesiynau - nid dim ond myfyrwyr.
Jennifer Kent yw is-lywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd: "Roedden ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gallu darparu lle iddyn nhw gynnal eu cyfarfodydd wythnosol yma.
"I ni, mae'n teimlo fel ffordd dda iawn o ddod â'r myfyrwyr a'r gymuned at ei gilydd, ac mae hi hefyd yn bwysig, drwy ddod â nhw yma, nad ydy'r myfyrwyr yn teimlo stigma."
'Syniad gwych'
Mae'r syniad yn un "gwych", medd llywydd NUS Cymru, Gwyneth Sweatman, ac un yr hoffai hi weld yn cael ei efelychu ar draws y DU, ac yn debycach i'r Unol Daleithiau, lle mae cyfarfodydd AA mewn prifysgolion yn fwy cyffredin.
Mae'r brifysgol yn dweud fod cylluniau cefnogaeth eraill - lle gall unigolion gael cymorth cyfoedion - wedi profi'n "fuddiol iawn".
Mae hefyd yn cynnig cwnsela a gwasanaeth lles i fyfyrwyr sydd ag "anhawsterau eraill sy'n gysylltiedig â chamddefnydd alcohol".
Mae prifysgolion Met Caerdydd, Glyndwr a'r Drindod Dewi Sant hefyd wedi dweud wrth BBC Cymru fod rhai myfyrwyr wedi gofyn iddyn nhw am gymorth yn ymwneud â dibyniaeth ar alcohol o fewn y pum mlynedd diwethaf, er nad oedd yr achosion yn niferus.
Mae'r data swyddogol diweddaraf yn awgrymu fod pobl ifanc yn yfed llai o alcohol.
Fodd bynnag, dywedodd y Dr Mani Mehdikhani, un o ymddiriedolwyr Alcoholics Anonymous, fod nifer y bobl ifanc sy'n dod i gyfarfodydd ar i fyny.
"O edrych ar yr arolygon mewnol ry'n ni'n gynnal bob pum mis, bob tro ry'n ni'n cynnal arolwg, mae niferoedd uwch o bobl ifanc yn dod i gyfarfodydd AA am y tro cyntaf", meddai.
"Yn ein harolwg diwethaf yn 2015, roedd 33% o'n newydd-ddyfodiaid ni o dan 40 oed, ac rwy'n siŵr fod canran fawr o'r rheiny o fewn grŵp oed myfyrwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017