Canfod corff dyn ger marina Neyland yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi canfod corff dyn yn agos at Farina Neyland.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau bod dyn wedi mynd i'r môr ger Neyland brynhawn Sul.
Y gred yw ei fod wedi mynd i drafferthion ger marina'r dref, a bod menyw arall wedi ceisio cynnig cymorth iddo.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael eu galw am gymorth tua 15:45 ddydd Sul.
Rhoi gwybod i deulu
Cafodd bad achub o Angle ynghyd â thimau gwylwyr y glannau o Dale, Aberllydan a St Govan yn eu cynorthwyo.
Llwyddodd y fenyw i ddod allan o'r dŵr yn ddiogel. Rhoddwyd y gorau i beth o'r chwilio am oddeutu 19:30 nos Sul, ond fe ailddechreuodd y chwilio fore Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Yn anffodus fe ddaeth y chwilio i ben wrth i ni ddarganfod corf yn agos at y safle."
Nid yw corff y dyn wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i deulu Juris Apalko, dyn 25 oed o Latfia, am y datblygiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2018