Troseddwr rhyw yn ymddiswyddo fel cynghorydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Benfro gafodd ei garcharu am dresio plentyn wedi ymddiswyddo fel cynghorydd sir.
Cafodd David Boswell, sydd hefyd yn gyn-faer Penfro, ei garcharu am 18 mlynedd am dreisio merch ifanc a cham-drin un arall.
Ar ôl ei ddedfryd ddechrau'r mis daeth i'r amlwg fod Boswell, 58 oed, yn parhau i gael ei dalu fel cynghorydd sir gan nad oedd hawl cyfreithiol gan yr awdurdod rwystro taliadau cyflog iddo.
Ddydd Mercher dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Ian Westley, ei fod wedi derbyn llythyr ymddiswyddiad gan Boswell o'i rol fel cynghorydd sir a chynghorydd tref ym Mhenfro.
Fe fydd trefniadau nawr yn mynd rhagddynt er mwyn cynnal isetholiad.
Dywedodd y cyngor ei fod am ailddatgan cydymdeimlad gyda dioddefwyr Boswell.
Dim modd diarddel
Ychwanegodd llefarydd fod y cyngor wedi ceisio datrys y sefyllfa ers i Boswell gael ei ddedfrydu.
Roedd yn rhaid i'r cyngor ar aros cyfnod penodol tan fod ganddynt hawl cyfreithiol i rwystro taliadau cyflog blynyddol o £13,600.
Fe wnaeth o barhau i fynychu cyfarfodydd y cyngor tan yr achos llys.
Yn ôl y gyfraith does ond modd diarddel cynghorydd os ydyn nhw heb fynychu cyfarfod am chwe mis yn olynol.
Dywed Cyngor Penfro eu bod nhw ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn lobio am newid yn y gyfraith.
"Mae'r cyngor drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud pob ymdrech gyda'r asiantaethau eraill - yn cynnwys Cyngor Tref Penfro - i sicrhau nad oedd Mr Boswell yn ymgymryd â gwaith yn y ward, nac yn mynychu gweithgareddau cyngor fyddai wedi ei roi mewn cysylltiad, neu fod a rôl mewn unrhyw benderfyniadau, yn ymwneud â phlant, " meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018