Pump yn pledio'n euog i ymosod ar Ifan Owens yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ifan OwensFfynhonnell y llun, Gareth Owens
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifan Owens yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae pum dyn wedi pledio'n euog yn Llys y Goron Abertawe o ymosod ar Ifan Owens yn Aberystwyth yn gynharach eleni.

Fe wnaeth Billy Michael Valentine, 19 oed, bledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Fe wnaeth y pedwar arall - David Robert Lloyd (25), Lee Andersen-Warnes (20), Andrew Raymond John Scott (23) a Michael Jones (24) - bledio'n euog o anhrefn treisgar.

Bu Mr Owens mewn coma yn dilyn yr ymosodiad ar Stryd Uchel, Aberystwyth, ar 14 Ionawr. Cafodd anafiadau difrifol i'w ben.

Roedd y pum dyn gafodd eu harestio a'u cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol, ond fore Mercher fe wnaethon nhw newid eu ple.

Bydd y pump yn cael eu dedfrydu ar 8 Awst.